'Rhaid dysgu gwersi o adolygiad i achos Neil Foden'
- Cyhoeddwyd
Rhaid gweld pa wersi sydd i'w dysgu wedi i lys gael pennaeth ysgol yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plant, medd yr aelod o Lywodraeth Cymru oedd yn Weinidog Addysg adeg rhai o'r troseddau.
Roedd Jeremy Miles, sydd bellach yn Ysgrifennydd yr Economi, yn ymateb wedi i reithgor ddyfarnu bod Neil Foden yn euog o 19 o gyhuddiadau o gam-drin merched yn rhywiol.
Bydd y g诺r 66 oed o Hen Golwyn, oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, yn cael ei ddedfrydu ar 1 Gorffennaf.
Cyhoeddodd Cyngor Gwynedd wedi'r dyfarniad y bydd ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal.
- Cyhoeddwyd15 Mai
- Cyhoeddwyd15 Mai
- Cyhoeddwyd15 Mai
Roedd yr achos yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug wedi clywed bod uwch aelod o staff wedi codi pryderon ynghylch ymddygiad Foden gydag adran addysg y cyngor yn 2019 ond bod y pryderon wedi cael eu diystyru.
Dywedodd y barnwr Rhys Rowlands bod y ffaith na chafwyd ymchwiliad bryd hynny, yn "peri pryder mawr" gan fod y dystiolaeth yn amlygu bod y diffynnydd "wedi parhau i droseddu".
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd ddydd Mercher eu bod "wedi ein brawychu gan natur y troseddau a gyflawnwyd" a'u bod "yn ymwybodol iawn y gallai canlyniadau鈥檙 achos difrifol hwn achosi straen a gofid pellach i ddisgyblion".
Ychwanegodd: 鈥淣awr fod y broses droseddol wedi dod i ben, bydd y gwaith o adolygu a sefydlu pa wersi sydd i鈥檞 dysgu o鈥檙 achos yn dechrau."
Dywedodd Jeremy Miles bod y "troseddau yma yn rhai erchyll ac rwy鈥檔 meddwl am y dioddefwyr sydd 'di bod trwy gymaint a'r dewrder maen nhw wedi ddangos yn ystod digwyddiadau yn y llys".
Wrth gael ei holi am yr achos ar raglen Dros Frecwast, dywedodd: "Mae鈥檔 bwysig bod adolygiadau'n digwydd i鈥檙 cyd-destun hwn.
"Mae hynny yn mynd i ddigwydd ac rwy鈥檔 credu bod hi'n bwysig i bawb gymryd ystyriaeth o ba ganlyniadau ddaw o hynny.
鈥淢ae systemau sy鈥檔 'neud gofynion o ran diogelwch yn bodoli - mae angen gwireddu a sicrhau eu bod nhw yn cael eu gweithredu ar lawr gwlad...
"Mae hynny'n holl bwysig ac yn gwbl greiddiol i sut maen nhw'n gweithio...
"Bydd e'n bwysig i weld yn sgil [ymholiadau] mwy manwl pa bethau sydd wedi digwydd a dysgu gwersi o hynny, a bydd e鈥檔 bwysig i bawb edrych ar y canlyniadau ddaw o hynny.鈥