Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pwy yw Eluned Morgan?
Mae Eluned Morgan eisoes wedi cael ei chadarnhau fel arweinydd newydd Llafur Cymru.
Hi yw'r ddynes gyntaf i arwain y blaid ac mae disgwyl mai hi fydd y ddynes gyntaf i fod yn Brif Weinidog Cymru.
Dyma'r ail waith iddi roi ei henw ymlaen i fod yn arweinydd, ond mae'r amgylchiadau yn wahanol iawn y tro hwn.
Chwe blynedd wedi'r ymgais aflwyddiannus honno, mae disgwyl i Eluned Morgan gael ei hethol yn brif weinidog yn swyddogol ddydd Mawrth.
Dyma edrych yn 么l ar yrfa wleidyddol Eluned Morgan, a ddechreuodd 30 mlynedd yn 么l.
Pan ymunodd Ms Morgan 芒 Senedd Ewrop ym 1994, hi oedd ond y bumed fenyw o Gymru erioed i gael ei hethol i unrhyw senedd.
Yn 27 mlwydd oed, Ms Morgan oedd aelod ieuengaf y senedd ar y pryd hefyd, a hi oedd y gwleidydd Cymreig gyntaf i roi genedigaeth tra yn y swydd.
Am bymtheg mlynedd ar 么l hynny, coridorau Brwsel a Strasbwrg oedd ei chartref gwleidyddol.
Magwraeth wleidyddol
Fe gafodd ei magu yn Nhrel谩i yng Nghaerdydd.
Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Glantaf, cyn mynd i Goleg yr Iwerydd ym Mro Morgannwg, ac yna ymlaen i Brifysgol Hull.
Roedd ei thad yn ficer ac yn gyn-arweinydd ar gyngor yr hen De Morgannwg.
Roedd ei mam, Elaine, hefyd yn gynghorydd.
Mi oedd eu cartref yn fwrlwm gwleidyddol, gyda ffigyrau amlwg fel Rhodri Morgan a Mark Drakeford yn rhan o'r cylch hwnnw.
Yn 2011 fe gafodd ei dyrchafu鈥檔 aelod o D欧鈥檙 Arglwyddi fel y Farwnes Morgan o Drel谩i, a bu鈥檔 llefarydd ar ran y Blaid Lafur yn Senedd San Steffan, cyn cael ei hethol i Senedd Cymru yn 2016 dros etholaeth ranbarthol y Canolbarth a鈥檙 Gorllewin.
Ers hynny, mae hi wedi cyflawni cyfres o swyddi fel gweinidog, cyn cael ei phenodi鈥檔 weinidog iechyd yn 2021, ynghanol y pandemig.
Mae'r swydd honno yn cael ei gweld fel yr anoddaf o fewn y llywodraeth, yn enwedig yn ystod y fath amgylchiadau heriol.
Mae sawl mater arwyddocaol wedi codi yn ystod ei chyfnod yn y r么l, er enghraifft ei phenderfyniad i roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dan fesurau arbennig unwaith eto.
Ddwy flynedd yn 么l fe ddywedodd Ms Morgan y byddai rhedeg y gwasanaeth iechyd ar gyllideb dynn yn 鈥渦ffern ar y ddaear鈥.
Cyfres o ymddiheuriadau
Ry鈥檔 ni wedi gweld cyfres o ymddiheuriadau hefyd.
Datgelodd yr ymchwiliad Covid iddi regi mewn neges destun at gydweithwyr am yr amrywiad Omicron.
Dywedodd ei bod hi'n flin am hynny ac nad 鈥渄yna鈥檙 hyn rydych chi ei eisiau" gan ferch i ficer!
Mae ei g诺r, Rhys Jenkins, yn offeiriad hefyd, ag yn feddyg teulu. Mae ganddynt ddau o blant.
Daeth ymddiheuriad arall ym mis Mehefin 2022 pan gafodd ei gwahardd rhag gyrru am chwe mis am oryrru.
Fe ymddiheurodd eto'r llynedd am j么c am y diweddar Margaret Thatcher ac ad-drefnu鈥檙 cabinet Ceidwadol yn San Steffan.
Soniodd nad oedd hi am barhau yn Ysgrifennydd Iechyd pan ddaeth Vaughan Gething i rym, ond fel 'na fuodd hi.
Nawr, mae鈥檔 ymddangos fel bod ei hamser wedi cyrraedd, a鈥檙 syniad o uno gyda Huw Irranca-Davies yn plesio.
Ond fe fydd uno鈥檙 blaid Lafur yn y Senedd yn dasg lawer anoddach na rhedeg ysbytai, efallai鈥檙 dasg anoddaf iddi ei wynebu yn ei gyrfa hyd yma.