Gwaith i brom Hen Golwyn yn 'diogelu cymunedau'
- Cyhoeddwyd
Mi fydd gwaith i atgyfnerthu amddiffynfeydd m么r yn Hen Golwyn yn diogelu cymunedau sir Conwy am ddegawdau i ddod, yn 么l y cyngor.
Wedi tair blynedd o waith strwythurol mae'r promen芒d bellach wedi ailagor i'r cyhoedd yn dilyn buddsoddiad o 拢18m, fel rhan o gynllun gwerth 拢35m yn y pen draw.
Roedd pryder yn lleol bod stormydd grymus a chynnydd lefel y m么r yn peryglu'r l么n gerllaw ynghyd 芒'r rheilffordd a phrif draffordd yr A55.
Ar 么l codi lefel y l么n o bron i 2m mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y gwaith yn dweud y bydd yn gwarchod yr ardal ac yn sicrhau gall bobl wneud y mwyaf o'r adnodd "heb boeni".
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2019
Yr hen seilwaith 'dan fygythiad'
Fe gafodd y promen芒d a'r gwaith strwythurol gwreiddiol eu hadeiladu yn Oes Fictoria ac wedi degawdau o stormydd grymus bu'n rhaid cau'r l么n sawl gwaith.
Yn 么l Cyngor Conwy, y sir honno sydd 芒'r dwysedd poblogaeth uchaf sy'n byw ger y m么r drwy Gymru ac mae'r gwaith yma wedi bod yn holl bwysig i warchod y cymunedau hynny.
"Mae hwn 'di bod yn hanfodol bwysig," medd y Cynghorydd Goronwy Edwards, sy'n gyfrifol am bortffolio Amgylchedd Cyngor Conwy.
"Mae'r rheilffordd a'r A55 wedi bod dan fygythiad o fethu ac mae hynny wedi'w gydnabod r诺an.
"Roedd yr hen waith Fictoraidd ddim yn ddigonol ac oherwydd y newid hinsawdd oedd o gyd dan fygythiad."
Ychwanegodd y cynghorydd bod gwaith ehangach ar draws y glannau wedi rhoi "lefel o sicrwydd" eu bod yn ddiogel "am ddegawdau i ddod".
Cerrig o chwareli lleol
Y newid mwyaf gweledol yw'r cerrig anferth sydd wedi eu gosod ar hyd y traeth.
Bwriad rhain yw amsugno grym y m么r wrth iddo dorri'r glannau, yn 么l cwmni Griffiths fu'n gyfrifol am y gwaith.
Mae 160,000 tunnell o gerrig wedi eu gosod a'r rhan fwyaf o chwareli lleol o F么n, Penmaenmawr a phentref Helygain.
"Mae'n galluogi i bobl yr ardal wneud y pethau ella 'dan ni'n cymryd yn ganiataol," meddai Cyfarwyddwr y Gogledd ar ran cwmni Griffiths, Owain Thomas.
"Plant yn gallu mynd i'r ysgol, mynd i'r siop heb feddwl am y peth ac fel busnes dyma'r math o beth 'dan ni eisiau bod yn involved mewn.
"Prosiectau sydd yn y cymunedau 'dan ni'n byw a gweithio mewn."
Mae'r gwaith yn dilyn buddsoddiad enfawr ar draws arfordir Bae Colwyn hyd at Fae Penrhyn lle mae lefel y tywod wedi ei gynyddu i greu traethau newydd.
Yn 么l y cwmni, y rheswm y mae cerrig wedi eu defnyddio yn Hen Golwyn yw oherwydd y byddai tywod yn cael ei olchi i ffwrdd gan lif y d诺r.
Roedd y cynllun yn un heriol ar brydiau, gyda'r gweithlu'n gorfod gweithio gyda'r llanw mewn amodau oer a gwyntog.
Un a fu'n gweithio ar y cynllun ers y dechrau ydy Rhys Owen.
"Y peth mwyaf heriol oedd gweithio gyda'r llanw," meddai.
"Wrth gwrs oedd angen dechrau yn gynnar yn y bore, weithiau o'n i'n dechrau o'r t欧 rhyw dri, hanner awr wedi tri y bore i fod yma er mwyn gweithio ac weithiau yn gweithio'n hwyr yn nos hefyd.
"Lan y m么r o'n i wrthi ac yma ers y dechrau yn gosod y cerrig 'ma.
"Mae'n braf [gweld y cynllun yn dod i ben ac yn] bechod i weld o'n darfod. O'n i'n mwynhau gwneud y gwaith ond braf gweld o hefyd."
Gyda rhan fechan ger ardal Rotary Way eto i'w gwblhau, y gobaith ydy ymhen rhai misoedd y bydd y promen芒d i gyd bron, o Hen Golwyn hyd Bae Penrhyn, ar ei newydd wedd ac yn diogelu'r cymunedau am ddegawdau i ddod.