Glastonbury 2024: 'Rhywbeth wna' i fyth anghofio'
- Cyhoeddwyd
Mae Cynan Evans yn ffan mawr o gerddoriaeth. Cerddoriaeth yw canolbwynt ei waith a cherddoriaeth yw canolbwynt ei fywyd tu allan i'r gwaith hefyd.
Felly pan ofynnodd ´óÏó´«Ã½ Introducing iddo fynd i ŵyl Glastonbury ar ran y cynllun datblygu artistiaid Cymreig, Gorwelion, doedd dim angen gofyn dwywaith!
Rhannodd Cynan ychydig o'i uchafbwyntiau gyda Cymru Fyw.
Glastonbury, 2024 - lle i ddechrau?
Dyma fy nhro cyntaf i yn yr ŵyl fyd-enwog yn fferm Worthy, ac mi oedd hi'n un o benwythnosau gorau fy mywyd.
Roedd cael gweld rhai o fandiau mwya'r byd, rhai o'r artistiaid newydd mwya' cyffrous, a dawnsio tan oriau mân y bore i guriadau electronig lliwgar gyda ffrindiau yn rywbeth wna' i fyth anghofio.
Ac roedd cael gweld gymaint o artistiaid o Gymru yn cynrychioli'r wlad yn brofiad swreal hefyd, a ges i sawl pinch me moment go iawn dros y penwythnos hir!
Wrth eistedd ar y bryn yn gwylio machlud yr haul brynhawn dydd Mercher, doeddwn i methu coelio 'mod i wedi cyrraedd un o wyliau mwya'r byd ar ôl trio am docynnau ers blynyddoedd.
Roedd hwn hefyd yn safle da i geisio deall lleoliadau'r llwyfannau gwahanol gan fod cymaint i'w weld.
Mae The Royston Club, band o ardal Wrecsam, yn mynd o nerth i nerth ar hyn o bryd. Perfformion nhw ar lwyfan Bread & Roses.
Roedd y lle yn orlawn â phobl yn canu eu caneuon air am air. Roedd hi mor braf clywed gymaint o bobl yn siarad Cymraeg o gwmpas y lle yn y dorf yma.
Fizz oedd headliner llwyfan ´óÏó´«Ã½ Introducing ar y nos Wener. Un o'r aelodau yw Greta Isaac o Gaerdydd.
Roedd hi'n job amhosib i ddewis pwy i'w weld yn hwyr nos Wener. Roedd setiau Dua Lipa, IDLES, Fontaines D.C. a Jungle yn clasho.
Ond ro'n i'n hapus iawn gyda gweld Fontaines D.C. – band ôl-pync o Iwerddon – ar lwyfan The Park yn y diwedd. Maen nhw'n fand dw i wedi dymuno gweld am sawl blwyddyn erbyn hyn.
Roedd perfformiad Little Simz ar y Llwyfan Pyramid yma yn uchafbwynt i bawb aeth i'w weld.
Roedd hi'n wych gweld perfformiad mor hyderus gan Little Simz o flaen ei chynulleidfa fwyaf ers dechrau ei gyrfa cerddoriaeth. Gwnaeth y perfformiad yma gadarnhau mai hi yw'r person mwyaf cŵl yn y byd... am yr awr yna o leiaf!
Daeth dros 100,000 o bobl at ei gilydd i weld Coldplay yn perfformio ar y Llwyfan Pyramid, ac fe ddangoson nhw i'r dorf pam maen nhw wedi bod mor boblogaidd am mor hir. Hwn oedd eu pumed tro yn headline-io Glastonbury.
Mae'n hawdd anghofio'r nifer o ganeuon poblogaidd mae Coldplay wedi eu rhyddhau dros y blynyddoedd, ond fe wnaeth y can mil a mwy o bobl oedd yn gwylio fy atgoffa i yn ddigon cyflym.
Roedd y perfformiad yn anhygoel ac wrth ystyried y visuals, y dorf, y caneuon a'r gwesteion (yn cynnwys Michael J Fox!), teg dweud mai dyma'r diffiniad o fod yn headliner.
Roedd Kaptin yn arddangos cerddoriaeth o Gymru ac Iwerddon yn ystod ei set.
Mae Kaptin Barrett yn DJ, ymgynghorydd cerddoriaeth a chydlynydd hip-hop i Amgueddfa Cymru.
Roedd hi'n anhygoel clywed artistiaid Cymraeg megis Mace The Great a Juice Menace yn cael eu chwarae yn Shangri-La.
Ond ges i'r sioc fwyaf pan glywes i Pwy Sy'n Galw? gan Dom a Lloyd yn cael spin!
Ar ôl gweld 32 artist ar draws 18 o lwyfannau gwahanol mewn un penwythnos, roedd hi'n amser cysgu.
Diolch Glastonbury am fod mor anhygoel!
2025, unrhyw un?
Mae holl uchafbwyntiau Glastonbury 2024 ar gael ar ´óÏó´«Ã½ iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd19 Mehefin
- Cyhoeddwyd23 Mehefin