大象传媒

Galw am ymchwiliad i efengylu honedig mewn ysgol uwchradd

Ysgol Uwchradd Llanidloes
  • Cyhoeddwyd

Mae galwadau am ymchwiliad i ysgol yn y canolbarth yn dilyn cwyn ei bod yn hyrwyddo creadaeth (creationism) a chwrs Cristnogol efengylaidd.

Mae鈥檙 Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol (NSS) yn dweud eu bod wedi derbyn lluniau o bosteri mawr sydd ar waliau yn Ysgol Uwchradd Llanidloes ym Mhowys sy鈥檔 dangos bywyd morol a chysawd yr haul o dan linellau o鈥檙 Beibl megis 'Mawr yw gwaith yr Arglwydd' a hefyd 'Creodd Duw y morfilod mawr'.

Mae鈥檙 NSS yn galw am waharddiad ar ddysgu creadaeth mewn ysgolion yng Nghymru gan ddweud ei fod yn "tanseilio addysgu am ddamcaniaethau sy鈥檔 seiliedig ar dystiolaeth fel esblygiad".

Dywed Llywodraeth Cymru "nad oes hawl gan ysgolion cymunedol i fod 芒 gogwydd crefyddol".

Ffynhonnell y llun, NSS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r NSS wedi cael gwybod bod y posteri yn yr ysgol yn ddigon mawr i orchuddio waliau cyfan

Mae'r NSS yn honni mai鈥檙 prifathro, Daniel Owen, sy'n bennaf gyfrifol am hyrwyddo creadaeth yn yr ysgol.

Mae Mr Owen hefyd yn arweinydd ysbrydol mewn eglwys efengylaidd yn Y Drenewydd, tua 14 milltir o Lanidloes.

Mae gwefan yr eglwys yn dweud bod Mr Owen yn gyfrifol am "waith [yr eglwys] ymhlith plant a phobl ifanc", a bod gan yr eglwys "ddyletswydd arbennig iawn i bregethu鈥檙 Efengyl i bob person byw".

Dywed yr NSS eu bod wedi cael gwybod bod y posteri yn yr ysgol yn ddigon mawr i orchuddio waliau cyfan, a bod honiadau eu bod wedi cael eu hariannu o gyllideb yr ysgol.

Mae un o鈥檙 lluniau yn dangos map o鈥檙 byd o dan ddyfyniad o鈥檙 Apostol Paul sy鈥檔 dweud: "O un dyn y gwnaeth Duw yr holl genhedloedd, i breswylio鈥檙 holl Ddaear; a nododd eu hamseroedd penodedig mewn hanes a therfynau eu tiroedd."

Ffynhonnell y llun, NSS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae honiadau mai cyllid yr ysgol sy'n ariannu'r posteri

Mae鈥檙 gymdeithas seciwlar hefyd yn honni bod gan y llawlyfrau a roddir i ddisgyblion dudalen gyngor sydd ond yn cyfeirio at adnodau o鈥檙 Beibl.

Mae llun o dudalen sy鈥檔 dod o鈥檙 llawlyfr, yn 么l honiad yr NSS, yn dangos tudalen cyngor sy鈥檔 cynnwys adrannau ar ryw, camdriniaeth a hunanladdiad.

Mae鈥檙 dudalen yn cyfeirio disgyblion at adnodau o鈥檙 Beibl sy鈥檔 cynghori pobl i "ffoi rhag anfoesoldeb rhywiol", "ffoi rhag chwantau drwg ieuenctid" a bod pobl sy鈥檔 edrych ar fenywod "yn chwantus" ac eisoes wedi "godinebu" yn eu calon.

Mae'r adran sy'n rhoi cyngor ar gam-drin yn cyfeirio disgyblion at ddwy adnod.

Dywed un: "Pwy bynnag sy'n gwneud i un o'r rhai bach yma sy'n credu ynof fi bechu, byddai'n well iddo gael ei daflu i'r m么r gyda maen melin wedi'i rwymo am ei wddf.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Daniel Owen yn arweinydd ysbrydol mewn eglwys efengylaidd yn Y Drenewydd

Mewn perthynas 芒 hunanladdiad, mae cyfeiriad at Salm sy鈥檔 cynghori disgyblion i "ymddiried" eu bywydau i Dduw.

Dyw'r dudalen ddim yn cyfeirio at linellau ff么n neu ffynonellau proffesiynol eraill o gymorth ar gyfer cam-drin neu hunanladdiad.

Mae鈥檙 NSS hefyd yn honni i Mr Owen ddweud wrth athrawon i ddangos fideo am y cwrs Alpha 鈥 cwrs efengylaidd Cristnogol 鈥 i'w grwpiau tiwtor, ac y gallai disgyblion ddilyn y cwrs mewn clwb amser cinio o鈥檙 enw Lighthouse.

Er bod dysgu creadaeth fel damcaniaeth wyddonol wedi'i wahardd yn Lloegr, dyw hyrwyddo creadaeth ddim wedi'i wahardd mewn ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae鈥檙 NSS wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ganllawiau newydd yn gwahardd hyrwyddo neu addysgu creadaeth fel damcaniaeth wyddonol amgen.

Mae鈥檙 gymdeithas hefyd wedi galw am ymchwiliad i'r efengylu honedig yn Ysgol Uwchradd Llanidloes.

'Di-gyfiawnhad'

Dywedodd Stephen Evans, prif weithredwr y Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol: "Mae hybu creadaeth yn gwbl ddi-gyfiawnhad yn nhermau addysgiadol, ac mae鈥檔 tanseilio addysgu am ddamcaniaethau sy鈥檔 seiliedig ar dystiolaeth megis esblygiad, yn ogystal 芒 thanseilio sgiliau plant i feddwl mewn modd beirniadol.

"Mae鈥檙 ymgyrch helaeth o efengylu yn Ysgol Uwchradd Llanidloes yn groes i鈥檙 ymddiriedaeth a ddylai fodoli rhwng disgyblion, rhieni, a staff.

"Mae amser ac adnoddau sylweddol wedi'u gwario ar ymdrechion i annog ideoleg grefyddol y pennaeth.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru ymchwilio ar fyrder i Ysgol Uwchradd Llanidloes, a chyflwyno mesurau penodol sy鈥檔 gwahardd hyrwyddo creadaeth."

Dadansoddiad ein gohebydd addysg a theulu, Bethan Lewis

Mae r么l ffydd mewn addysg wedi bod yn ddadleuol erioed.

Yng Nghymru mae yna dros 200 o ysgolion ffydd, a rheiny 芒 natur grefyddol neu gysylltiadau ffurfiol gyda sefydliadau ffydd.

Ond dydy ysgolion cymunedol ddim i fod i gael gogwydd crefyddol.

Dan y Cwricwlwm i Gymru, mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn orfodol ac mae鈥檙 canllaw yn dweud y dylai fod yn 鈥渨rthrychol, yn feirniadol ac yn blwraliaethol鈥, heb geisio 鈥済wneud dysgwyr yn 鈥榞refyddol鈥 neu'n 鈥榓nghrefyddol鈥".

Mae ymgyrchwyr yn dweud y dylai creadaeth gael ei wahardd.

Mae yna bryderon wedi cael eu codi yn y gorffennol am gredoau rhai sefydliadau sydd wedi mynd mewn i ysgolion i siarad gyda disgyblion neu leoliadau ar gyfer ymweliadau.

Yn sicr, mae鈥檔 faes sensitif sydd fel arfer yn cael ei drin yn ofalus gan ysgolion, ond yn yr achos yma mae Llywodraeth Cymru a鈥檙 awdurdod lleol yn ystyried a oes rheolau wedi cael eu torri.

Ffynhonnell y llun, NSS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Poster yn hyrwyddo'r cwrs efengylaidd Alpha - a rhan o boster o gysawd yr haul sy'n cynnwys dyfyniadau o'r Beibl

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae鈥檔 ofynnol i ysgolion addysgu gwyddoniaeth gan gynnwys esblygiad i ddisgyblion o oed ifanc er mwyn helpu i osod y sylfeini ar gyfer gwell dealltwriaeth o gysyniadau gwyddonol ehangach a ffurfiant y bydysawd.

"Mae'r cwricwlwm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (RVE) yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr ymgysylltu ag amrywiaeth o safbwyntiau a chredoau sy鈥檔 gyffredin mewn cymdeithas.

"Ni chaniateir i ysgolion cymunedol gael gogwydd crefyddol ac rydym mewn trafodaethau gyda鈥檙 awdurdod lleol perthnasol."

Canllawiau clir

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: "Mae鈥檙 cyngor yn croesawu鈥檙 ffaith bod Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (RVE) yn ofyniad statudol yn y Cwricwlwm i Gymru ac yn orfodol i鈥檔 holl ddysgwyr ym Mhowys rhwng 3 ac 16 oed.

"Er mwyn sicrhau bod y gofyniad statudol hwn yn cael ei fodloni, mae鈥檔 hanfodol bod penaethiaid, uwch arweinwyr a llywodraethwyr yn deall gofynion cyfreithiol RVE o fewn y cwricwlwm.

"Mae鈥檙 canllawiau ar RVE yn glir iawn ac wedi鈥檜 cyhoeddi o dan adran 71 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu 2021. Dyma鈥檙 canllawiau yr ydym yn disgwyl i鈥檔 holl ysgolion gadw atynt.

"Fel cyngor rydym ar hyn o bryd yn trafod y mater hwn gyda鈥檙 Pennaeth, Cadeirydd y Llywodraethwyr a Llywodraeth Cymru.

"Rydym hefyd yn ymgysylltu 芒鈥檙 Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) 鈥 gofyniad statudol ar bob awdurdod lleol 鈥 i geisio cyngor o dan ei ddyletswyddau statudol."

Pynciau cysylltiedig