Canolfannau hamdden 'i ddiflannu o gefn gwlad heb fwy o arian'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Lywodraeth Cymru ariannu llywodraethau lleol yn well neu dderbyn bod gwasanaethau fel canolfannau hamdden yn mynd i ddiflannu o gymunedau gwledig, yn 么l Cyngor Sir Powys.
Fe ddaw wrth i鈥檙 awdurdod lleol ystyried ymgynghoriad allai olygu cau dros hanner canolfannau'r sir.
Opsiynau eraill sy鈥檔 cael eu trafod yw trosglwyddo perchnogaeth i gymunedau neu gwmni preifat.
Yn 么l Cyngor Powys, maen nhw鈥檔 鈥渞hedeg mwy o ganolfannau hamdden nag unrhyw gyngor arall yng Nghymru鈥 ac mae鈥檔 rhaid sicrhau eu bod yn 鈥渇forddiadwy鈥.
'Siomedig iawn'
Mae Richard Rees yn mynd 芒鈥檌 blant i wersi nofio bob wythnos yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi.
Dywedodd: 鈥淢ae鈥檔 siomedig iawn. Ni鈥檔 byw mewn ardal wledig yma lle mae digon o bethau peryglus i blant - ger y m么r, llynnoedd ac afonydd.
鈥淢ae鈥檔 plant ni鈥檔 gorfod gallu dysgu nofio, mae鈥檔 hanfodol.
Ychwanegodd: 鈥淢ae cymdeithas wedi mynd reit bell os nad ydyn ni鈥檔 gallu dysgu ein plant ni i nofio. Mae鈥檔 beth mor bwysig.
鈥淢ae 'na ardal eang yn cael ei gwasanaethu, gyda phobl yn dod o dair sir gwahanol - o Aberystwyth ac o Ddolgellau."
- Cyhoeddwyd8 Medi 2023
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2022
Roedd disgwyl i'r adroddiad a'r opsiynau fynd o flaen cabinet Cyngor Powys ar 26 Tachwedd, ond daeth cyhoeddiad gan y cyngor fore Iau eu bod yn gohurio鈥檙 drafodaeth.
Roedd disgwyl i'r cabinet edrych ar opsiynau ar gyfer lleihau nifer eu canolfannau yr wythnos nesaf, cyn ymgynghoriad.
Mae鈥檙 drafodaeth wedi ei gohirio 鈥 ond mae鈥檙 broblem o ariannu鈥檙 cyfleusterau yn parhau ac felly hefyd yr ansicrwydd o fewn y cymunedau gwledig.
Beth oedd yr opsiynau?
Roedd disgwyl i'r ymgynghoriad drafod pedwar opsiwn.
Opsiwn 1: Dim newid.
Opsiwn 2: Cadw pum canolfan hamdden graidd yn Y Trallwng, Y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu ac Ystradgynlais. Cau'r naw arall oni bai bod modd trosglwyddo i ofal ysgolion.
Opsiwn 3: Trosglwyddo鈥檙 holl ganolfannau hamdden i ddwylo cymunedol neu gwmni preifat.
Opsiwn 4: Cau neu ymchwilio i鈥檙 posibilrwydd o drosglwyddo i ddwylo cymunedol neu gwmni preifat y canolfannau yn Llanfair-ym-muallt, Dwyrain Maesyfed, Rhaeadr Gwy, Llanfyllin a Llanfair Caereinion. Cadw Canolfannau Hamdden Machynlleth, Llanidloes a Thref y Clawdd, Y Trallwng, Y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu, Ystradgynlais.
'Dim dyfodol i'r clwb'
Yn aelod o Glwb Triathlon Cerist, mae Bedwyr Fychan yn poeni am y dyfodol.
Fe ddywedodd ei fod yn 鈥渂ryder mawr鈥 i鈥檙 clwb ac i鈥檙 gymuned yn ehangach.
鈥淢ae dyfodol clwb Triathlon Cersit ynghlwm yn uniongyrchol gyda鈥檙 ganolfan hamdden.
鈥淣id yn unig ydyn ni鈥檔 ymarfer yma ond rydym ni鈥檔 dibynnu ar y ganolfan i feithrin aelodau鈥檙 dyfodol i ni.
鈥淗eb ganolfan hamdden bydd dim dyfodol i鈥檙 clwb,鈥 meddai.
I bobl Rhaeadr Gwy, yr unig opsiwn yw cadw鈥檙 canolfannau hamdden ar agor.
Mae sesiynau ymarfer corff arbennig i鈥檙 rheiny dros 50 yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Rhaeadr dair gwaith yr wythnos ac mae鈥檔 ddosbarth 鈥減oblogaidd鈥.
Un o鈥檙 rhai sy鈥檔 mynd yw Margaret Lloyd, sy'n dweud ei fod yn newyddion 鈥渢rist iawn鈥 iddi.
鈥淢ae鈥檔 dda i bobl fel fi, sydd yn h欧n, i wneud ymarfer y corff. Nid yn unig hynny, ni鈥檔 mynd am baned o goffi ar 么l y dosbarth ac mae pobl yn dod o lefydd tu allan i Raeadr i鈥檙 sesiynau.
鈥淒wi鈥檔 byw ar ben fy hun ac mae dod i fan hyn mor dda i fi.鈥
'Colli gwasanaethau pwysig'
Yn 么l y Cynghorydd Richard Church, mae'n rhaid i bobl sy鈥檔 byw mewn ardal wledig sylweddoli 鈥渂od rhaid teithio yn bellach i gael mynediad at gyfleusterau鈥.
Ychwanegodd ei fod yn 鈥渁ngerddol鈥 am alluogi pobl i gadw鈥檔 iach ac 鈥渘id yw鈥檔 benderfyniad dwi鈥檔 dymuno gwneud鈥, ond bod "hanes hir o frwydro am arian i lywodraeth leol yng Nghymru".
鈥淢ae angen i Lywodraeth Cymru edrych ar hyn yn ddifrifol achos os nad ydyn ni鈥檔 gallu ariannu yn well mi fyddwn ni鈥檔 colli gwasanaethau pwysig fel ein canolfannau hamdden.鈥
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod yr heriau gwirioneddol mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth gydbwyso eu gwasanaethau a'u cyllidebau, ac rydym yn parhau i gwrdd ag awdurdodau lleol i drafod yr heriau hyn yn rheolaidd.
"Daeth cyllideb y DU 芒 buddsoddiad i'w groesawu i Gymru, mewn cyferbyniad llwyr 芒'r 14 mlynedd diwethaf. Ond ni ellir gwrthdroi'r sefyllfa a'i hetifeddwyd gan y Canghellor mewn un gyllideb yn unig, a bydd yn cymryd amser i adfer cyllid cyhoeddus.
"Byddwn yn ystyried ein penderfyniadau gwario wrth i ni ddatblygu ein cyllideb ddrafft yn yr wythnosau i ddod."