大象传媒

Marwolaeth Pwllheli ddim yn amheus, meddai'r heddlu

Stryd ym Mhwllheli
  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu鈥檙 Gogledd wedi cadarnhau nad ydy marwolaeth dyn ym Mhwllheli yn cael ei thrin fel un amheus erbyn hyn.

Dywedodd yr heddlu mewn datganiad fod y dyn - oedd yn lleol i'r ardal - wedi marw brynhawn Sadwrn, 9 Tachwedd.

Mae teulu'r dyn yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Cafodd dyn lleol arall ei arestio mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad ond mae ef bellach wedi ei ryddhau.

Mae鈥檙 llu wedi diolch i鈥檙 gymuned am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth iddyn nhw gynnal ymholiadau yn yr ardal.

Pynciau cysylltiedig