Caerdydd: Ymchwilio i ymosodiad rhyw difrifol mewn parc
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ymosodiad rhyw difrifol mewn parc yng Nghaerdydd.
Cafodd yr heddlu eu galw i Barc Splot tua 03:25 fore Sul ar 么l i'r dioddefwr, menyw, alw ar aelod o'r cyhoedd.
Dywedodd yr Arolygydd Ditectif Kath Barry fod y dioddefwr "yn cael ei chefnogi gan swyddogion arbenigol" a bod "ymholiadau i ddeall yr hyn ddigwyddodd" yn mynd rhagddynt.
Mae'r llu yn annog unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth i gysylltu 芒 nhw.