Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Heddlu'r De yn arestio pedwar o bobl ar 么l ymosodiad difrifol
Mae pedwar dyn wedi cael eu harestio yn dilyn ymosodiad difrifol yn Abertawe.
Cafodd swyddogion eu galw i Heol y Cwm yn ardal Hafod toc wedi 12:00 brynhawn Mercher yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei anafu.
Fe gadarnhaodd yr heddlu fod dyn 31 oed o Waunwen, dyn 49 oed o Gendros, dyn 37 oed o'r Strand a dyn 39 oed o Dreforys wedi eu harestio.
Mae swyddogion yn parhau ar y safle, ac mae disgwyl y bydd Heol y Cwm ar gau am gyfnod hir wrth i'r heddlu ymchwilio i'r digwyddiad.
Mae Heddlu De Cymru wedi gofyn i unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu 芒 nhw.
O'r lleoliad
Meleri Williams, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae Heol y Cwm wedi ei chau wrth i鈥檙 heddlu ymchwilio i ddigwyddiad.
Mae cymdogion yn dweud iddyn nhw gael gwybod gan yr heddlu na allan nhw fynd yn 么l i鈥檞 cartrefi am y tro.
Dyweodd rhai yn lleol eu bod wedi gweld yr Ambiwlans Awyr yn glanio ger Heol Cwm.
Mae ceir heddlu a faniau unedau ymchwilio yn dal i fynd a dod o'r safle.