Mwy nag erioed ar restrau aros ysbytai Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae rhestrau aros ar gyfer triniaeth ysbyty yng Nghymru wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed eto 鈥 ac wedi codi am y pumed mis yn olynol.
Roedd ychydig dros 791,511 o driniaethau eto i'w cwblhau ym mis Mehefin, sef 615,300 o gleifion yn aros am driniaeth, sy'n record arall.
Mae鈥檙 rhai sy鈥檔 aros hiraf 鈥 dros flwyddyn neu ddwy flynedd am driniaeth 鈥 hefyd wedi cynyddu.
Mae鈥檙 ffigyrau misol hefyd yn dangos problemau gyda tharged allweddol arall, wrth i鈥檙 rhai sy鈥檔 aros dros flwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf godi 5.5%.
Ni ddylai neb aros mor hir 芒 hynny, o dan dargedau adfer wedi'r pandemig, ond mae'r nifer wedi codi i 74,175.
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd20 Mehefin
Mae鈥檙 nifer sy鈥檔 aros dros flwyddyn am driniaeth wedi bod yn amrywio, ond wedi codi eto i鈥檙 ffigwr uchaf ers Tachwedd 2022, yn agos i 160,000.
Roedd yna hefyd 23,418 o gleifion yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth, sy'n gynnydd am y trydydd mis yn olynol.
Os yn edrych ar arbenigeddau sy'n cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol yn unig, mae modd cymharu amseroedd aros 芒 Lloegr.
Roedd 22.5% o gleifion yn aros am flwyddyn neu fwy yng Nghymru, o gymharu 芒 4% yn Lloegr.
Galwodd y Ceidwadwyr Cymreig y ffigyrau yn "druenus", gan ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi methu eto i ddelio 芒'r "rhestrau gormodol yma".
Dywedodd Plaid Cymru fod angen "ailfeddwl radical ar sut i ymateb i heriau鈥檔 GIG" gan alw am ymchwiliad annibynnol i berfformiad GIG Cymru ac "ymrwymo i wneud i dargedau olygu rhywbeth".
"Mae鈥檔 fater o siom bod ymdeimlad anochel o fethu 芒 mynd i'r afael ag amseroedd aros y GIG fis ar 么l mis," meddai eu llefarydd iechyd Mabon ap Gwynfor.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd newydd, Mark Drakeford, fod y cynnydd yn y rhestrau aros, fel mewn rhannau eraill o'r DU, yn "siomedig".
Ychwanegodd: 鈥淩ydym wedi bod yn glir iawn gyda byrddau iechyd ein bod yn disgwyl gweld ffocws ar leihau amseroedd aros hir.
"Byddwn yn parhau i gefnogi鈥檙 GIG i wella prydlondeb gofal wedi鈥檌 gynllunio a gofal brys.鈥
Rhai gwelliannau
Ond bu rhai gwelliannau yn ystod y mis.
Awst oedd y pedwerydd mis prysuraf ar gyfer y galwadau ambiwlans mwyaf brys - ac er yn is na'r targed, fe wellodd yr amser ymateb ychydig, gyda 48.2% o alwadau "coch" wedi'u cyrraedd o fewn wyth munud.
Roedd gwelliannau i amseroedd aros mewn adrannau brys, gyda 69.3% yn aros llai na phedair awr.
Roedd mwy na 10,100 o gleifion wedi aros dros 12 awr mewn unedau brys cyn cael eu gweld.
Roedd 56.7% o gleifion wedi dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod o gael eu hamau o fod 芒 鈥嬧媍hanser, sy'n well na'r ddau fis diwethaf.