Mam o Fangor wedi marw tra'n cael llawdriniaeth yn Nhwrci - cwest
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth mam o Wynedd a aeth i Dwrci i gael llawdriniaeth colli pwysau, waedu i farwolaeth ar 么l i'r driniaeth fynd yn anghywir, mae cwest wedi clywed.
Cafodd Janet Lynne Savage o Fangor niwed i un o'i phrif rydwel茂au yn ystod y llawdriniaeth, a arweiniodd at ataliad ar y galon.
Er gwaethaf ymdrechion y timau argyfwng yn yr ysbyty yn Antalya, bu farw yn yr uned gofal dwys ar 6 Awst 2023.
Daeth y cwest yng Nghaernarfon i gasgliad o reithfarn naratif, gan nodi mai achos y farwolaeth oedd colli gwaed yn ystod llawdriniaeth colli pwysau (gastric sleeve).
Cytuno i'r driniaeth o fewn 24 awr
Clywodd y cwest fod Ms Savage wedi cysylltu 芒 chwmni iechyd Regenesis Health Travel ddechrau mis Gorffennaf 2023, ac o fewn 24 awr roedd wedi gwneud cynlluniau i dderbyn llawdriniaeth fis yn ddiweddarach yn Nhwrci.
Dywedodd y fam i ddau wrth y cwmni ei bod eisoes wedi bod yn cymryd y cyffur colli pwysau Ozempic, ond nad oedd ganddi fynediad ato bellach, a'i bod yn poeni ei bod yn magu pwysau yn sydyn.
Dywedodd ei bod eisiau colli tair st么n ac mai ei BMI oedd 30.7.
Yn 么l y GIG, byddai ei BMI wedi ei lleoli ar waelod y categori "gordew", sy'n cynnwys ystod BMI o 30 i 39.9.
'Wedi stopio anadlu'
Dywedodd Alison Ergun o gwmni Regenesis ei bod wedi derbyn galwad ar ddiwrnod y llawdriniaeth.
"Roedd problemau wedi codi ac roedd hi wedi stopio anadlu ym munudau cychwynnol y llawdriniaeth," meddai mewn datganiad.
Dywedodd y crwner Kate Robertson fod nodiadau gan y llawfeddyg Dr Ramazon Azar, a oedd wedi eu cyfieithu, yn disgrifio bod "nam" 3-4mm yn y rhydweli aorta pan gychwynnodd y llawdriniaeth, gan arwain at y gwaedu.
Dywedodd fod yr aorta wedi ei drwsio gan y t卯m, a bod y driniaeth colli pwysau wedi ei ohirio oherwydd y cymhlethdodau.
Er hyn, roedd meddygon yn yr uned gofal dwys yn methu 芒 ffeindio pwls, ac fe gafodd ei chadarnhau'n farw yn oriau m芒n y bore.
Dywedodd y crwner ei bod wedi gorchymyn archwiliad post-mortem ar 么l i gorff Ms Savage gael ei gludo yn 么l i Gymru, a gafodd ei gynnal yn Ysbyty Glan Clwyd.
Dywedodd y patholegydd Muhammad Aslam mai achos y farwolaeth oedd gwaedu o'r aorta abdomen, a oedd wedi ei drwsio yn ystod y llawdriniaeth.
Fe dderbyniodd y crwner gasgliadau鈥檙 patholegydd, gan gydymdeimlo 芒 theulu Mrs Savage.