大象传媒

Gemau Paralympaidd: Medal arian i Georgia Wilson

Georgia WilsonFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Georgia Wilson mai ei cheffyl Sakura "yw fy ffrind gorau"

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Gymraes Georgia Wilson wedi ennill medal arall yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis.

Cipiodd Wilson, sy'n 28 oed ac o Abergele, fedal arian yn y marchogaeth.

Roedd hi eisioes wedi cael medal efydd yn y Gemau a ddydd Sadwrn fe orffennodd hi yn yr ail safle yn y dull rydd i unigolyn - gradd II.

Ar 么l ennill dwy fedal efydd yn Tokyo, mae'n golygu bod Wilson a'i cheffyl Sakura wedi ennill pedair medal Paralympaidd.

Mae athletwyr o Gymru wedi ennill 13 o fedalau yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis hyd yma eleni.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Georgia Wilson a'i cheffyl Sakura wedi ennill dwy fedal yn y Gemau Paralympaidd eleni

Wrth siarad 芒'r 大象传媒 dywedodd Wilson: "Allai ddim disgrifio'r teimlad. I dorri'r rhediad o fedalau efydd a chael arian, mae'n arbennig.

"Mae'r lleoliad yn arbennig a maen nhw'n gwneud gwaith arbennig yn trefnu'r holl ddigwyddiad."

Dywedodd mai Sakura "yw'r ceffyl gorau. Hi yw fy ffrind gorau. Dwi'n mynd i'w gweld hi bob dydd - mae'n gallu bod yn ddrygionus o flaen pobl eraill ond mae'n dda pan dwi gyda hi".

"Allai ddim diolch ddigon iddi am bopeth mae wedi ei wneud i mi."

Pynciau cysylltiedig