Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Newid neu farw yw'r dewis i'r blaid Geidwadol'
Mae angen i'r Blaid Geidwadol newid yn gyflym neu "fydd yn marw" yn 么l arweinydd y blaid yn Senedd Cymru.
Dywed Andrew RT Davies hefyd y dylai'r blaid hefyd ymddiheuro am fethu 芒 chadw ei haddewidion o ran mewnfudo.
Dyna oedd neges Mr Davies wrth annerch cynhadledd y blaid yn Birmingham brynhawn Sul - cyfarfod mawr cyntaf gwleidyddion ac ymgyrchwyr Ceidwadol ers colli'r etholiad cyffredinol mis Gorffennaf.
Dim ond 121 o Aelodau Seneddol sydd gan y blaid bellach yn San Steffan, ac fe gollodd y blaid bob un o'i seddi yng Nghymru.
Yn 么l Mr Davies mae angen agwedd "dim goddefgarwch" o ran mewnfudo, gan weithredu'n gyflym i symud pobl sydd yn y DU yn anghyfreithlon.
Ond mae'n dadlau bod safbwynt "dogmataidd" y blaid ar yr economi hefyd wedi diflasu etholwyr.
"Mae'n rhaid i'r Blaid Geidwadol newid," dywedodd. "Does gan yr un blaid hawl ddigwestiwn i lywodraethu. Gwnaethon ni fethu 芒 chadw ein haddewidion ac mae'n rhaid i ni ddweud bod hi'n flin 'da ni.
"Trwy adlewyrchu gyda balchder ein gwerthoedd ceidwadol y gwnawn ni berswadio [etholwyr] i gefnogi'r Ceidwadwyr Cymreig.
"Ond rhaid i ni hefyd newid y ddirnadaeth ohonom o ran yr economi. Rhaid cael ein gweld fel pobl pragmataidd, nid ideolegol. Rhaid newid ein hiaith ar bethau fel gwladoli."
Dywedodd Mr Davies: "Mae diwydiannau a chymunedau Cymreig wedi talu pris globaleiddio ac mae'n rhaid i ein plaid wneud mwy i'w gwarchod. Rhaid dangos eu bod o bwys i ni...
"Os yw ein plaid yn newid, fe wnawn ni adennill tir yn gyflym a llwyddo yn [etholiadau] 2026 a 2029. Os ddim, byddwn ni'n marw. Dyna'r dewis."
Ychwangodd bod Llywodraeth Lafur Cymru yn cyfuno "byd-olwg prifddinesig eithafol a chenedlaetholdeb feddal", a chanlyniad hynny oedd cyflwyno'r terfyn cyflymder 20mya a ehangu'r Senedd yn hytrach na gwella gwasanaethau cyhoeddus.
Wrth siarad ar raglen 大象传媒 Politics Wales, fe awgrymodd llefarydd materion Cymreig y Ceidwadwyr bod beirniadu llywodraeth Lafur Cymru ddim yn ddigon i ddenu etholwyr yn etholiad nesaf y Senedd.
Dywedodd yr Arglwydd Byron Davies bod angen i'r Blaid Geidwadol "allu cynnig rhywbeth" i bobl Cymru wrth fynegi anfodlonrwydd gyda materion fel y ddeddf 20mya a rhestrau aros hir y GIG yng Nghymru.
"Rhaid i ni allu dweud 'edrychwch - dyma ein polis茂au ni'," meddai.
"Dyma y gallwch chi droi ato, dyma'r cyfleoedd y gallen ni eu rhoi i chi' ac mae angen i ni ddatblygu hynny a'u cyflwyno i bobl Cymru yn etholiad 2026".
Dadansoddiad
Gohebydd gwleidyddol 大象传媒 Cymru Teleri Glyn-Jones
Wrth i aelodau'r Blaid Geidwadol droi'n fewnblyg i asesu beth aeth o'i le iddyn nhw yn yr etholiad cyffredinol, 'does gan y Ceidwadwyr Cymreig ddim amser i'w golli. Mae'r ornest wleidyddol nesaf iddyn nhw yn prysur agos谩u, gyda chwta 20 mis tan etholiadau'r Senedd yn 2026.
Gobaith Andrew RT Davies wrth annerch y gynhadledd yw gwneud dau beth: argyhoeddi ei blaid bod cyfle i ennill tir yng Nghymru yn etholiadau'r Senedd, ac argyhoeddi ei gyd-aelodau yn y Senedd mai o yw'r dyn gyda'r weledigaeth i'w harwain nhw ar hyd y daith honno.
Wedi cyfnod anodd i Lafur Cymru mewn llywodraeth a newidiadau i'r system bleidleisio yng Nghymru yn yr etholiad nesaf, mae'r Ceidwadwyr yn gobeithio bod cyfle gwirioneddol i lacio gafael y blaid Lafur ar wleidyddiaeth yng Nghymru. Ond i wneud hynny mae'n gweld bod angen Cymreigio'r neges sydd gan y Ceidwadwyr a chynnig polis茂au sydd fwy at ddant y cyhoedd yma.
Ond mae o hefyd dan bwysau o tu fewn ei blaid ei hun, gydag adroddiadau dros yr haf bod sawl Aelod o'r Senedd yn cwestiynu ei arweinyddiaeth yn dilyn cyfres o sylwadau dadleuol ar wefannau cymdeithasol.
Mae gan Andrew RT Davies a'i blaid waith caled o'u blaenau os ydyn nhw am hudo pleidleiswyr Cymru, yn enwedig o ystyried poblogrwydd plaid Reform UK, ond mae Mr Davies yn dadlau'r achos heddiw mai apelio at y tir canol, ac nid yr asgell dde, yw'r ffordd i wneud hynny yng Nghymru.