大象传媒

Atal cyflwyno TGAU Iaith Arwyddion Prydain yn 'ddinistriol'

BSLFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd disgyblion yn gallu astudio unedau llai mewn BSL yn hytrach, meddai Cymwysterau Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr yn dweud bod penderfyniad i atal cyflwyno TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru yn "ddinistriol".

Dywedodd Cymwysterau Cymru fod y TGAU newydd, oedd i fod i'w gyflwyno yn 2027, wedi codi "llawer o heriau ymarferol i'r sector addysg".

Mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o fynd yn 么l ar eu gair drwy beidio 芒 darparu cymhwyster lefel TGAU.

Bydd disgyblion yn gallu astudio unedau llai mewn BSL yn lle hynny, meddai Cymwysterau Cymru.

'Heriau ymarferol'

Yn gynharach eleni cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y byddai TGAU newydd mewn Iaith Arwyddion Prydain ar gael o 2027 - oedd eisoes flwyddyn yn hwyrach na'r bwriad gwreiddiol.

Ond dywedodd y sefydliad ddydd Mercher fod "datblygu'r cymhwyster hwn yn dal i beri llawer o heriau ymarferol i'r sector addysg yn ei gyfanrwydd".

"Felly, ar 么l ystyried yn ofalus, mae Cymwysterau Cymru wedi gwneud y penderfyniad anodd i atal datblygiad y cymhwyster TGAU Gwneud-i-Gymru mewn Iaith Arwyddion Prydain."

Yn lle hynny, "bydd unedau Iaith Arwyddion Prydain ar gael yn ein cymhwyster Sgiliau am Oes newydd".

"Bydd y rhain yn galluogi ysgolion ledled y wlad i gynnig cymwysterau sy'n cynnwys Iaith Arwyddion Prydain, gyda mwy o ddysgwyr yn gallu datblygu sgiliau ymarferol ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol mewn lleoliadau bob dydd."

Dywedodd Susan Daniels, prif weithredwr y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar: 鈥淒ros ddegawd mae pobl ifanc byddar wedi bod yn ymgyrchu dros TGAU BSL.

"Mae darganfod bod Llywodraeth Cymru wedi mynd yn 么l ar eu gair ac na fydd TGAU BSL yng Nghymru bellach yn ddinistriol.

鈥淢ae mwy o bobl yn gwybod ac yn defnyddio BSL yn allweddol i chwalu鈥檙 rhwystrau mae rhai pobl ifanc byddar yn eu hwynebu.

"Does dim oes amheuaeth eu bod yn haeddu gallu ennill cymhwyster sy'n cael ei gydnabod yn ffurfiol yn eu hiaith eu hunain.

鈥淏yddwn yn parhau i sefyll gyda phobl ifanc byddar ar hyn.

"Rydym mor benderfynol ag erioed i wneud yn si诺r bod TGAU BSL yn dod yn realiti yng Nghymru ac rydym yn awyddus i weithio gyda Chymwysterau Cymru i oresgyn yr 鈥榟eriau ymarferol鈥 maen nhw'n eu disgrifio.鈥

'Deall y bydd siom'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淐ymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gynnwys Iaith Arwyddion Prydain yn ei chwricwlwm, ac rydym yn deall y bydd siom ynghylch penderfyniad Cymwysterau Cymru i atal datblygiad TGAU BSL.

"Fodd bynnag, rydym yn falch y byddant yn parhau i ddatblygu unedau BSL fel rhan o'r cymhwyster Cyfres Sgiliau newydd, a fydd ar gael o 2027.

"Trwy'r cymhwyster newydd hwn bydd dysgwyr yn cael y cyfle i allu datblygu eu sgiliau cyfathrebu BSL ymarferol ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol bob dydd.鈥