大象传媒

Un o s锚r Netflix eisiau gallu siarad Cymraeg gyda'i mab

mathew rhys a Keri RussellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Cymro Mathew Rhys yw partner yr actores Keri Russell

  • Cyhoeddwyd

Mae un o s锚r y gyfres deledu The Diplomat wedi dweud ei bod eisiau dysgu Cymraeg er mwyn gallu defnyddio'r iaith i gyfathrebu 芒'i mab.

Mae Keri Russell mewn perthynas 芒'r Cymro Matthew Rhys, ar 么l iddyn nhw gwrdd ar set y ddrama The Americans.

Dywedodd Ms Russell ei bod wedi dysgu ambell ymadrodd o glywed ei phartner yn siarad 芒'u mab.

Wrth siarad 芒'r 大象传媒, dywedodd yr actores ei bod yn "gyfarwydd 芒 bore da, nos da, dwi'n gwybod sut i gyfri. Ond mae Math yn siarad Cymraeg 芒 Sam fwy neu lai drwy'r amser."

Aeth ymlaen i ddweud ei bod yn ysu i ymweld 芒 chanolfan Nant Gwrtheyrn yng Ngwynedd, ar 么l mynegi cymaint o ddiddordeb yn niwylliant Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd ail gyfres The Diplomat gael ei ryddhau ar Netflix yr wythnos hon

"Mae popeth ynghylch y diwylliant Cymraeg a'r Eisteddfod, mae popeth yn gysylltiedig 芒 cherddi a dawns a chelf yn gyffredinol," meddai.

"Roedd cwrdd 芒 Math a dysgu am hynny, mae'n gymaint o ran o bwy ydyw, a pha mor c诺l yw gweld plant yn cael eu magu yn perfformio yn yr hen draddodiad o gelf a chanu a dawnsio."

Fe wnaeth ail gyfres The Diplomat gael ei rhyddhau ar Netflix yr wythnos hon.

Mae Ms Russell yn chwarae rhan Llysgennad UDA yn y gyfres deledu.

Gyda'r etholiad arlywyddol yn ei anterth yn America, mae'n mynnu mai damweiniol yn unig y unrhyw debygrwydd rhwng y gyfres a gwleidyddiaeth y wlad heddiw.

Dywedodd i'r ysgrifennu a'r ffilmio ddigwydd "amser maith yn 么l" ond bod streic actorion ac awduron wedi tarfu ar y ffilmio.

Dywedodd ei bod yn ddiolchgar o'r cyfle i bortreadu gwraig bwerus a galluog yn y gyfres.

Pynciau cysylltiedig