大象传媒

Trais yn erbyn menywod yn 'erchyll o gyffredin'

Rachel Williams
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid yw Rachel Williams, goroeswr trais yn y cartref, wedi ei synnu gan gasgliadau'r adroddiad diweddaraf

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai.

Mae trais yn erbyn menywod yn parhau i fod yn "erchyll o gyffredin", yn 么l adroddiad newydd am sut beth yw bod yn fenyw yng Nghymru.

Mae adroddiad Cyflwr y Genedl gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn rhybuddio hefyd bod gwasanaethau cymorth arbenigol yn wynebu pwysau digynsail oherwydd galw cynyddol a diffyg cyllid.

Yn 么l ymgyrchydd blaenllaw yn y maes, sydd wedi goroesi trais yn y cartref, mae "cam-drin domestig a thrais yn argyfwng cenedlaethol".

Dywed Rachel Williams bod angen i'r cyhoedd ddeall yn well faint o fygythiad yw gweithredoedd "terfysgwyr domestig" o fewn cymdeithas.

Fe gafodd Ms Williams ei saethu gan ei chyn-gymar yn 2001, ddiwrnodau ar 么l gofyn am ysgariad.

Cafodd ei hanafu'n ddifrifol pan aeth ei g诺r Darren i'r salon trin gwallt lle'r oedd hi'n gweithio a'i saethu.

Fe laddodd Williams ei hun ddiwrnodau wedi'r digwyddiad, a chwe wythnos yn ddiweddarach fe wnaeth mab Rachel, Jack, hefyd ladd ei hun yn 16 oed.

Ffynhonnell y llun, Rachel Williams
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rachel Williams wedi rhannu ei phrofiadau dros y blynyddoedd er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch trais yn erbyn menywod

13 o flynyddoedd wedi'r cyfnod ofnadwy o drais a cholled, mae Ms Williams yn ymgyrchydd amlwg sydd yn brwydro am addysg yngl欧n 芒 thrais yn y cartref.

鈥淒ydw i ddim eisiau gweld teulu arall yn mynd trwy鈥檙 hyn aethon ni drwyddo," meddai.

Dywedodd Ms Williams ei bod yn credu y dylai cam-drin domestig a thrais gael eu trin fel "argyfwng cenedlaethol".

Ychwanegodd: "Rwy鈥檔 meddwl pe bai鈥檙 cyhoedd yn eu derbyn fel yr hyn ydyn nhw - maen nhw'n derfysgwyr domestig - fe fydden ni鈥檔 ei weld fel bygythiad mwy i fywyd mewn cymdeithas."

Ffynhonnell y llun, Victoria Vasey
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Victoria Vasey ydy cyfarwyddwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru

Yn 么l cyfarwyddwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Victoria Vasey, mae niferoedd yr achosion o gam-drin yn erbyn menywod "yn syfrdanol o uchel".

Ychwanegodd fod "dod o hyd i ddata cadarn" am drais ar sail rhywedd a cham-drin "yn her".

Mae'r adroddiad yn dweud bod tua thri chwarter y troseddau sy'n ymwneud 芒 cham-drin domestig, a dros 80% o'r ymosodiadau rhyw, yn erbyn merched.

Dywedodd Cymorth i Ferched Cymru hefyd fod "cynnydd sylweddol" mewn atgyfeiriadau ar gyfer eu gwasanaethau ers y pandemig.

"Mae achosion hefyd yn mynd yn fwyfwy cymhleth ac wedi cael eu gwaethygu gan yr argyfwng costau byw a'r argyfwng tai," meddai'r elusen.

Ychwanega'r elusen bod angen "cyllid cynaliadwy... er mwyn sicrhau bod goroeswyr yn parhau i dderbyn y gefnogaeth maen nhw'n ei haeddu".

Gobaith hefyd, er y pryderon

Mae adroddiad blynyddol Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru hefyd yn edrych ar fenywod yn yr economi, yn ogystal 芒鈥檙 rheiny mewn arweinyddiaeth a diwydiant.

"Mae鈥檔 hollbwysig cael menyw yn brif weinidog," meddai Victoria Vasey, gan ddyfynnu cydraddoldeb rhywiol mewn gwleidyddiaeth fel arwydd o obaith.

Mae gweld "cabinet benywaidd trawiadol" yn San Steffan, meddai, yn "gyffrous" ac yn "rhywbeth i'w ganmol", ond mae'r adroddiad yn awgrymu nad yw'r darlun "cystal" mewn llywodraeth leol.

"Mae cynrychiolaeth gan fenywod mewn llywodraeth leol yn nodedig o isel, ac mae hynny'n rhywbeth yr hoffem yn fawr iawn ei weld yn cael sylw ar gyfer y dyfodol," meddai Ms Vasey.

Ychwanegodd fod dadansoddi data i adlewyrchu profiadau gwahanol merched o gefndiroedd amrywiol yn "bwysig" os am sicrhau newid.

"Mae angen i ni dyrchu i mewn i鈥檙 data hwnnw [sy'n] cynnwys edrych ar brofiadau gwahanol grwpiau o fenywod.

鈥淥s ydym am fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 materion sylfaenol sy鈥檔 golygu nad yw Cymru eto鈥檔 gyfartal o ran rhyw, mae angen i ni eu deall yn well."

'Hawl i bob menyw fyw yn rhydd o drais'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "gan bob menyw yr hawl i fyw yn rhydd o unrhyw drais, cam-drin a chamfanteisio".

Yn ymateb i'r adroddiad yn ehangach, dywedodd eu bod yn "parhau i weithio'n galed i greu Cymru hafal a lle mae gan bawb y cyfle i chwarae ei r么l yn y gymdeithas a'r economi.

"Rydym wedi ymroi i hyrwyddo gwaith teg ar draws Cymru i gyfeirio at y bwlch cyflog fel rhan o hyn."

Pynciau cysylltiedig