Cymraeg s锚r fel Dewi Lake ac Aaron Ramsey yn gosod 'esiampl wych'
- Cyhoeddwyd
Mae s锚r y byd chwaraeon fel Dewi Lake ac Aaron Ramsey yn arwain drwy esiampl ac yn annog pobl ifanc i ddefnyddio eu Cymraeg.
Dyna farn Rheolwr y Gymraeg Undeb Rygbi Cymru, sy鈥檔 dweud bod chwaraeon yn ffordd o roi hyder i bobl sy鈥檔 ansicr wrth ddefnyddio鈥檙 iaith.
Mewn cyfweliad ar raglen Bore Sul 大象传媒 Radio Cymru, dywedodd Gwyn Derfel hefyd fod cynnwys Cymraeg o fewn rhaglenni diwrnod g锚m rygbi Cymru wedi codi o 10% i 40%.
Mae'r Undeb wedi'u beirniadu yn y gorffennol am eu diffyg dwyieithrwydd.
Ond mae Mr Derfel yn dweud fod newid agweddau wedi bod yn fewnol, er mae'n cydnabod bod "lot fawr o ffordd i fynd".
'Cymraeg gwbl naturiol'
Dywedodd Mr Derfel ei fod wedi treulio diwrnod ar faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd eleni gyda chapten t卯m rygbi Cymru Dewi Lake.
"Roedd gweld ymateb y bobl ifanc i鈥檙 ffaith bod capten Cymru yn siarad Cymraeg ac yn dweud 鈥榦s nad ydw i鈥檔 si诺r o ambell air Cymraeg dwi鈥檔 jest yn d'eud y gair Saesneg - so what?鈥
鈥淐ymraeg gwbl naturiol ac mae鈥檔 arbennig o bwysig bod pobl sydd efo鈥檙 Gymraeg yn ei defnyddio.
鈥淢ae chwaraeon yn gyfle gwych i fod yn esiampl wych i bobl ifanc sydd falle ddim mor hyderus yn eu Cymraeg.鈥
Roedd yn canmol Cymdeithas B锚l-droed Cymru hefyd am y ffordd wnaethon nhw ddelio gydag Aaron Ramsey dros y blynyddoedd.
Fe wnaeth y chwaraewr, sydd bellach yn gapten ei wlad, roi'r gorau i wneud cyfweliadau Cymraeg yn sgil beirniadaeth am safon ei iaith meddai rhai - ond mae hynny bellach wedi newid.
"Be' oedden nhw鈥檔 ei wneud efo chwaraewyr oedd ddim yn arbennig o hyderus, yn enwedig Aaron Ramsey, roedden nhw鈥檔 ei warchod ac roedden nhw鈥檔 ei annog o," meddai Mr Derfel.
"Ac mae Ramsey r诺an mor falch o 'neud stwff yn Gymraeg ac maen nhw鈥檔 fodelau r么l mor, mor bwysig.鈥
Mr Derfel oedd y person cyntaf i gael ei benodi fel Rheolwr y Gymraeg i鈥檙 undeb rygbi pan gafodd y swydd newydd ei chreu yn 2023.
Roedd hynny鈥檔 dilyn cyfnod pan gafodd yr undeb ei beirniadu am ddiffyg defnydd o鈥檙 iaith, o鈥檌 gymharu gyda Chymdeithas 笔锚濒-诲谤辞别诲 Cymru.
Yn 么l Mr Derfel, fe gafodd ei "siomi ar yr ochr orau" pan ddechreuodd y swydd gan fod cymaint o wasanaethau yn y Gymraeg, ond bod angen gwella - gan gynnwys cynyddu鈥檙 defnydd a chreu polisi iaith newydd a鈥檌 gweithredu.
'Undeb Rygbi Cymru wedi gwella'
Er bod 鈥渓ot fawr o ffordd i fynd鈥, meddai, mae nifer o welliannau wedi eu gwneud ac mae agweddau positif o fewn yr undeb.
"'Da ni ar siwrnai ar hyn o bryd, mi ryda ni鈥檔 anelu at wella - ond, er enghraifft, mae datganiadau ni i鈥檙 wasg yn gwbl ddwyieithog," meddai.
鈥淢ae cynnwys ein rhaglenni ni ar gemau wedi codi o 10% yn Gymraeg i 40%... ac fel mae鈥檔 digwydd mae g锚m y menywod yn Rodney Parade yn erbyn Awstralia - honno fydd y rhaglen gwbl ddwyieithog gynta' mae鈥檙 undeb wedi ei chyhoeddi.
"Felly mae 'na welliannau yna ond dechrau鈥檙 daith yda ni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2023