Cyhuddo dyn o lofruddiaeth yn Hafod, Abertawe

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Disgrifiad o'r llun, Roedd Joshua Norman yn fab, tad, brawd ac ewythr cariadus, medd ei deulu wrth roi teyrnged iddo

Mae dyn wedi bod ger bron llys wedi鈥檌 gyhuddo o lofruddio dyn 27 oed yn ardal Abertawe.

Ddydd Sadwrn cafodd Paul Rosser, 49 oed o Gendros, ei gadw yn y ddalfa wedi iddo fod ger bron Llys Ynadon y ddinas a bydd yn ymddangos ger bron Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.

Bu farw Joshua Norman wedi iddo gael anafiadau difrifol ar Heol y Cwm, yn ardal Hafod, tua 12:00 ddydd Mercher, 11 Medi.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Hafod toc wedi 12:00 ddydd Mercher

Mewn teyrnged iddo dywedodd ei deulu: 鈥淩oedd Joshua yn fab, tad, brawd ac ewythr cariadus a oedd yn poeni鈥檔 fawr am ei deulu i gyd.

鈥淩oedd yn berson hardd. Byddai ei w锚n a'i synnwyr digrifwch yn goleuo unrhyw ystafell ac unrhyw galon.

鈥淏yddwn yn gweld ei eisiau鈥檔 ofnadwy ac ry'n yn gofyn am breifatrwydd ar yr adeg hon i alaru am golli ein mab annwyl.鈥

Mae dyn 31 oed gafodd ei arestio mewn cysylltiad 芒鈥檙 digwyddiad wedi cael ei ryddhau ar fechn茂aeth.

Mae dau ddyn arall yn eu tridegau, a gafodd eu harestio hefyd, wedi cael eu rhyddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.