Isdeitlau i ehangu cynulleidfa rhaglenni Cymraeg?
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o bobl ifanc yn gwylio rhaglenni gydag isdeitlau, diweddar.
Erbyn hyn, nid yw iaith yn rhwystr i'r to iau - mae nifer yn gwylio cynnwys mewn ieithoedd gwahanol ond gydag isdeitlau.
Yn sgil hyn mae 'na gwestiwn wedi codi am sut gall y Gymraeg fanteisio ar isdeitlau gan ehangu'r gynulleidfa sy'n gwylio cynyrchiadau o Gymru.
Mae Comisiynydd y Gymraeg eisoes wedi rhoi tystiolaeth gerbron y pwyllgor darlledu gan bwysleisio fod y newid yn rhoi cyfle i'r Gymraeg yn hytrach na bod yn rhwystr.
Isdeitlau yn gyfle i rhannu cynyrchiadau
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Iau, dywedodd yr Athro Jamie Medhurst o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth fod defnyddio isdeitlau yn gyfle i sicrhau fod cynyrchiadau o unrhyw iaith yn gallu cyrraedd cynulleidfa ehangach.
"Dwi'n meddwl os oes gennych chi stori dda, stori i'w dweud a'i bod yn gafael yn y gynulleidfa yna mae isdeitlau yn gallu cyrraedd cynulleidfaoedd y tu hwnt i'r bobl sy'n siarad yr iaith," meddai.
Roedd o'r farn fod angen perswadio pobl ddi-Gymraeg i wylio cynnwys Cymraeg gydag isdeitlau Saesneg ond bod "gwaith i'w wneud".
Roedd yn cytuno fod pobl yn eu harddegau yn "ddigon hapus i wylio ffilmiau, rhaglenni, gydag isdeitlau" - yn fwy felly na'r genhedlaeth h欧n.
Ychwanegodd yr Athro Medhurst fod yna "bob math o resymau" fod pobl yn defnyddio isdeitlau - o anawsterau clyw i ddeall yr hyn sy'n cael ei ddweud ar y rhaglen.
"Mae'n help cael y geiriau ar y sgrin yn ogystal 芒'r hyn maen nhw'n ei weld," meddai.
Dywedodd fod pobl ifanc wedi "arfer" gweld mwy o isdeitlau na phobl h欧n ar gynnwys digidol fel TikTok ac YouTube, a'i fod yn "norm" iddyn nhw.
Mae trafodaeth bellach ar y pwnc yng Ng诺yl Iris yng Nghaerdydd ddydd Iau.
10% o bobl dros 55 yn defnyddio isdeitlau
Fe wnaeth yr adroddiad ganfod fod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl ifanc sy'n gwylio cynnwys gydag isdeitlau.
Roedd 36% o bobl 16-24 oed o Brydain ac America yn gwylio mwy o ffilmiau mewn ieithoedd tramor o'i gymharu 芒'r ganran bum mlynedd yn 么l.
Mae'r ymchwil yn dangos mai ond 10% yw'r ganran ar gyfer pobl dros 55 oed.
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, eisoes wedi rhoi tystiolaeth ger bron y pwyllgor darlledu gan bwysleisio fod y newid yn rhoi cyfle i'r Gymraeg yn hytrach na bod yn rhwystr.
Ond nid pwnc newydd yw'r berthynas rhwng y Gymraeg ac isdeitlo.
Bu trafodaethau a dadlau yn y gorffennol am gynnwys isdeitlau Saesneg ar gynnwys S4C.
Yn 2023 fe wnaeth S4C ychwanegu istdeitlau Cymraeg ar raglenni Newyddion S4C wedi ymgynghoriad gyda dysgwyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd26 Medi 2023