大象传媒

'Swydd gydag yswiriant iechyd preifat wedi fy helpu i ddod yn fam'

Eliza Wide
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Eliza Wide wedi bod yn dioddef gyda'i symptomau ers iddi fod yn 13 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae mam ifanc wedi dweud na fyddai wedi gallu beichiogi heb lawdriniaethau a gafodd eu talu gan yswiriant meddygol preifat.

Mae Eliza Wide, 31, wedi profi symptomau poenus ers yn 13 oed - ond fe gymrodd ddegawd a mwy iddi gael diagnosis pendant.

Oherwydd ei rhwystredigaeth a鈥檙 oedi o fewn y gwasanaeth iechyd, penderfynodd Eliza, o Bontypridd, chwilio am swydd oedd yn cynnig yswiriant meddygol preifat.

鈥淩oedd fy symptomau wedi mynd mor ddrwg, do'n i ddim yn gallu cerdded heb bod mewn lot o boen," meddai.

鈥淓s i鈥檙 GP sawl gwaith am 14 blynedd a doedden nhw ddim yn cymryd fy mhoen i o ddifri.鈥

Defnyddiodd yr yswiriant i weld arbenigwr a chafodd ddiagnosis bron yn syth yn 27 oed.

Cafodd wybod fod ganddi endometriosis, adenomyosis a PCOS - sy鈥檔 gyflyrau gynocolegol - a bu'n rhaid iddi gael dwy lawdriniaeth.

Dywedodd Eliza na fyddai hi wedi gallu fforddio talu am y llawdriniaethau - oedd gwerth 拢15,000 - heb yr yswiriant preifat.

Bellach yn fam, mae Eliza yn argyhoeddedig na fyddai wedi gallu beichiogi heb y driniaeth.

Ffynhonnell y llun, Eliza Wilde
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Eliza Wide lawdriniaeth gychwynnol yn 2020 a chlywodd bod endometriosis helaeth yn ei phelfis, coluddyn a鈥檌 diaffram

鈥淢ae鈥檔 annheg bod menywod yn cael eu gadael mewn poen tra bod eu clefyd yn datblygu ac o bosib yn effeithio ar eu ffrwythlondeb oherwydd y rhestrau aros hir ar yr NHS,鈥 ychwanegodd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cydnabod y problemau y mae menywod a merched yn eu hwynebu bob dydd ac wedi gwneud iechyd menywod yn brif flaenoriaeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Geeta Kumar yn aelod o Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a鈥檙 Gynaecolegwyr

Mae Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a鈥檙 Gynaecolegwyr yn galw am roi blaenoriaeth i iechyd menywod yn ogystal 芒 buddsoddiad hirdymor.

Er bod rhestrau aros gynaecoleg wedi cynyddu 92% yng Nghymru dros y bedair blynedd diwethaf, mae鈥檙 corff yn poeni bod llai o frys i fynd i鈥檙 afael 芒 rhain o gymharu 芒 mathau eraill o lawdriniaethau.

Ar hyn o bryd mae dros 50,000 o fenywod yng Nghymru yn aros am wasanaethau gynaecolegol mewn ysbytai.

Mae bron i hanner yn aros yn hirach na鈥檙 targed o 26 wythnos a thros draean yn aros yn hirach na 36 wythnos.

Canslo yn y pandemig

Mae Geeta Kumar yn aelod o'r coleg ac yn arweinydd clinigol gwasanaethau menywod yng ngogledd Cymru.

Dywedodd bod sawl rheswm dros y cynnydd yn y rhestrau aros.

鈥淢ae ymwybyddiaeth merched o gyflyrau wedi cynyddu 鈥 sy鈥檔 beth da - ond ry'n ni hefyd yn teimlo nad yw iechyd menywod wedi bod yn flaenoriaeth ers cyfnod hir.

鈥淩y'n ni鈥檔 gwybod, o鈥檌 gymharu 芒 meysydd eraill, nad yw theatrau llawfyddygol a mannau clinigol yn gweithio i鈥檞 potensial llawn.

"Mae hynny i gyd yn cyfrannu at y rhestr aros, nid yn unig mewn clinigau ond hefyd ar gyfer llawdriniaethau.鈥

Ychwanegodd mai llawdriniaethau gynaecoleg oedd yn cael eu canslo gyflymaf yn ystod y pandemig.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Delyth Jewell AS am weld mwy yn cael ei wneud i fynd i'r afael 芒'r heriau

Mae Delyth Jewell, AS Plaid Cymru dros ranbarth Dwyrain De Cymru hefyd yn aelod o鈥檙 gr诺p trawsbleidiol iechyd menywod.

Mae hi鈥檔 dweud bod angen newid y disgwyl bod menywod yn 鈥渞hoi lan gyda鈥檙 boen鈥.

鈥淧am dyle poen fod yn rhan 鈥榥ormal鈥 o fywyd ar gyfer cymaint o fenywod? Mae fe鈥檔 hollol annerbyniol,鈥 meddai.

鈥'Da ni鈥檔 gwybod beth yw鈥檙 problemau ond dyw鈥檙 llywodraeth ddim wedi 'neud digon a 'da ni wedi aros blynyddoedd am gynllun i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 heriau iechyd menywod.鈥

Ffynhonnell y llun, 大象传媒
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r defnydd o iaith sy'n disgrifio cyflyrau'n bwysig, medd Liz Williams

Mae hefyd angen newid yr ieithwedd wrth s么n am gyflyrau, meddai Liz Williams, un o ymddiriedolwyr Triniaeth Deg i Ferched Cymru (FTWW).

鈥淩ydyn ni鈥檔 defnyddio鈥檙 term benign i ddisgrifio problemau gynecolegol sy' ddim yn canser, ac er mai hwn yw鈥檙 term meddygol cywir dyw e ddim yn adlewyrchu鈥檙 ffaith bod cyflyrau gynecolegol yn newid bywydau pobl,鈥 meddai.

Ychwanegodd bod y sefydliad hefyd yn credu bod yr iaith yn adlewyrchu鈥檙 ffaith bod pobl ddim yn cael y driniaeth 鈥済ywir ac amserol鈥 yn y byrddau iechyd a鈥檙 ysbytai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淩ydyn wedi bod yn glir gyda鈥檙 gwasanaeth iechyd yng Nghymru beth sydd ei angen i wella mynediad a mynd i鈥檙 afael ag amseroedd aros.

鈥淢ae Cynllun Iechyd Menywod 10-mlynedd yn cael ei ddatblygu i ysgogi鈥檙 gwelliant sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau iechyd o ansawdd da i fenywod drwy gydol eu hoes.鈥

Mae disgwyl y bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.

Pynciau cysylltiedig