大象传媒

Buddugoliaeth i'r Seintiau yng Nghynghrair y Pencampwyr

Seintiau NewyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Seintiau Newydd yn dathlu ail g么l Brad Young yn yr hanner cyntaf

  • Cyhoeddwyd

Cafodd y Seintiau Newydd y dechrau perffaith i'w hymgyrch yng Nghyngrair y Pencampwyr gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn pencampwyr Montenegro, FK De膷i膰.

Llwyddodd pencampwyr Cymru i ennill cymal cyntaf y rownd ragbrofol gyntaf o 3-0 yn Neuadd y Parc yng Nghroesoswallt nos Fawrth.

Aeth y Seintiau ar y blaen o fewn pum munud trwy beniad gan Brad Young, cyn iddo ddyblu'r fantais wedi hanner awr.

Roedd hi'n 3-0 cyn hanner amser wedi i Danny Davies rwydo yn dilyn cic gornel.

Fe fydd yr ail gymal yn cael ei chwarae ym Montenegro nos Fawrth nesaf.

Bydd Y Bala, Caernarfon a Chei Connah yn dechrau eu hymgyrchoedd nhw yng Nghyngres Europa nos Iau.