Arestio dau mewn cysylltiad 芒 marwolaeth yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad 芒 marwolaeth dyn 44 oed yng Nghaerdydd.
Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Chapel Wood yn Llanedern ychydig cyn 07:00 ddydd Sadwrn 22 Mehefin.
Mae'r heddlu'n ymchwilio i'r farwolaeth, sy'n cael ei thrin fel un anesboniadwy ar hyn o bryd.
Mae teulu'r dyn fu farw yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Lamerton o Heddlu'r De eu bod nhw'n apelio ar unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth i gysylltu 芒'r nhw.