Bangor: Cynlluniau 'cyffrous' i uwchraddio stadiwm p锚l-droed
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwyr stadiwm p锚l-droed yn y gogledd yn gobeithio denu mwy o ddigwyddiadau i'r ardal yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y cyfleusterau.
Yn sgil y penderfyniad i gau Ffordd Ffarrar yn 2011, sef cartref CPD Dinas Bangor ers 1920, Nantporth yw prif stadiwm y ddinas.
Ond yn dilyn cyfnod ansicr, gan gynnwys anghydfod dros ddyled o 拢63,000 yn ddyledus i gyngor y ddinas, dywed penaethiaid y stadiwm bod cynlluniau "cyffrous" ar gyfer y dyfodol gan gynnwys denu gemau o broffil uwch i'r rhanbarth.
Eisoes wedi buddsoddi cannoedd o filoedd ar wella'r cyfleusterau, bydd y stadiwm ar ei newydd wedd yn cael ei ddatgelu dros y penwythnos.
Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am redeg y maes yn dweud fod bwriad i ehangu'r capasiti a'r cyfleusterau ymhellach dros y blynyddoedd i ddod.
Gyda phenderfyniad i ailenwi'r maes yn Stadiwm Dinas Bangor, mae鈥檙 gwaith sydd wedi ei gwblhau hyd yma yn cynnwys gwelliannau sylweddol i fynediad a thu allan i鈥檙 stadiwm. Mae newidiadau hefyd i'r bar a'r cyfleusterau lletygarwch.
Dywedodd Nick Pritchard, un o gyfarwyddwyr Nantporth CIC: 鈥淓in nod yw creu gofod bywiog a chynhwysol sy鈥檔 gwasanaethu nid yn unig cefnogwyr p锚l-droed, ond y gymuned gyfan, gan gynnwys cynnal digwyddiadau elusennol am ddim.鈥
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd12 Mai 2023
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2022
Cadw gemau Ewropeaidd yng Nghymru
Ar un adeg roedd hi'n edrych yn debyg na fyddai'r un g锚m Ewropeaidd yn cael ei chynnal yng Nghymru yr haf hwn wedi i faes y Seintiau Newydd yng Nghroesoswallt gael ei enwebu fel 'cartref' dros dro Caernarfon, Cei Connah a'r Bala yng nghystadleuaeth Cyngres Europa.
Ond bellach mae Stadiwm Dinas Bangor wedi sicrhau caniat芒d arbennig gan UEFA i gynnal gemau Cei Connah a Chaernarfon - er yr elyniaeth draddodiadol rhwng timau'r ddinas a'r Can锚ris.
Daeth y caniat芒d er fod Stadiwm Dinas Bangor gydag ond 1,100 o seddi - sydd 400 yn brin o ofynion arferol UEFA.
Dywed Nantporth CIC fod y cynlluniau ar gyfer y maes yn cynnwys dwy eisteddle newydd bob pen i'r maes er mwyn cynyddu'r gofod i gynnal mwy o gemau proffil uwch.
Dywedodd Antonia Vance, Rheolwr Gweithredol Stadiwm Dinas Bangor wrth 大象传媒 Cymru, fod y cynlluniau'n rhai "cyffrous".
"'Da ni'n proud iawn fod Stadiwm Dinas Bangor yr unig leoliad yn yr ardal sydd gyda facilities UEFA categori 2, a 'da ni'n edrych ymlaen i groesawu Caernarfon a Cei Connah yn eu gemau yn Ewrop."
"Mae na 'blaniau mawr exciting ar gyfer y dyfodol a chael mwy o seddi ar gyfer gemau mawr.
"Ar y funud mae'r lle yn cael total makeover.
"Mi fydd y bar yn fwy cyfforddus a golau a seddi neis a bydd y tu allan yn fwy croesawgar," meddai Ms Vance.
"Bydd elusennau hefyd yn cael defnyddio'r lleoliad am ddim, mae 'na bosibiliadau o gael events mawr a bandiau mawr yn chwarae yma.
"Mae hyn i gyd ar gyfer y gymuned, 'da ni isho bod yn rhan o oes newydd i d卯m p锚l-droed a dinas Bangor," ychwanegodd.
'Oedd pethau'n reit dywyll'
Er yn cynnal gemau Ewropeaidd yr haf hwn, y prif glybiau sy'n chwarae yn y stadiwm yw prif glybiau dynion a merched y ddinas - sef Bangor 1876 a CPD Merched Bangor.
Mae'r ddau glwb yn chwarae yn ail haen y pyramid Cymreig ac yn denantiaid.
Yn 么l cadeirydd Bangor 1876, mae cael stadiwm gyda'r cyfleusterau gorau yn hollbwysig wrth i'r clwb dargedu dyrchafiad i'r JD Cymru Premier dros y blynyddoedd i ddod.
Gyda'r clwb wedi ei sefydlu yn sgil tranc CPD Dinas Bangor, sydd ddim yn chwarae o gwbl erbyn hyn, dywedodd Glynne Roberts fod dyhead i barhau i ddringo'r pyramid ond fod y stadiwm yn "adnodd byddai pob clwb yn hapus iawn i'w gael".
"Wrth fynd yn 么l bum mlynedd bellach roedd pethau'n reit dywyll ar b锚l-droed ym Mangor, ac hefo'r traddodiad a'r hanes yn y ddinas roedd y cefnogwyr yn teimlo bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth i amddiffyn y traddodiad yna," meddai.
"Y penderfyniad, anodd ar y pryd, oedd bod ni'n sefydlu clwb ein hunain a thorri ffwrdd o hen glwb Dinas Bangor, a phenderfynu fod y clwb o dan berchnogaeth y cefnogwyr.
"Y dyhead hirdymor ydi dringo i'r haen uchaf bosib, ond 'da ni wastad wedi dweud fod ni'n byw o fewn yr adnoddau sydd ganddon ni.
"Yr uchelgais ydi dringo gyn belled a fedrwn ni o fewn yr adnoddau sydd ganddon ni ac aros yn glwb sy'n berchen i'r cefnogwyr.
"'Dan ni mor ffodus fod adnoddau'r stadiwm yma ar gael i ni, mae'r gwaith sy'n mynd ymlaen ar hyn o bryd am osod y lle 'ma ben ac ysgwyddau uwchben unrhyw stadiwm arall, yn sicr o fewn y pyramid yn y gogledd 'ma," meddai.
"Mae'n help i ni ddenu chwaraewyr, mae'n help i'r cefnogwyr weld bod ni'n glwb go iawn ac yn help o ran y dyhead yna fod ganddon ni'r cyfleusterau sy'n cyd-fynd gyda'r uchelgais.
"Mae 'na newidiadau wedi digwydd o ran y pobl sy'n rhedeg y stadiwm, mae ganddon ni berthynas dda iawn hefo nhw."
Hen ffrindiau
Y g锚m gyntaf yn y stadiwm yn dilyn y gwaith fydd g锚m gyfeillgar yn erbyn FC United brynhawn Sadwrn sef clwb arall sydd yn eiddo i'r cefnogwyr a gwrthwynebwyr Bangor 1876 yn eu g锚m gyntaf erioed.
"Mae cefnogwyr FC United yn dod i'n gweld yn rheolaidd, oedd na 4-500 o Fangor wedi mynd i'r g锚m yna ym Manceinion [yn 2019] a wnaethon nhw weld yr angerdd yna sydd gan gefnogwyr Bangor a dwi'n meddwl fod y berthynas yna," ychwanegodd Glynne Roberts.
"'Da ni'n gobeithio fydd y lle yma'n eitha' llawn.
"Stadiwm cymunedol sydd yma, mae'r adnoddau'n cael eu gwella ac felly fe fydd. gobeithio, lot mwy o ddefnydd gan y gymuned [o stadiwm] a fydd yn agor i fyny i'r gymuned. Felly mae perchnogaeth o'r stadiwm yn eiddo i bobl Bangor a'r cylch."