大象传媒

A fydd canolfannau bancio yn achub y stryd fawr?

Sara Bailey a Nicola Laud
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sara Bailey a Nicola Laud wedi gweld effaith cau y banc ar eu busnesau

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl yn Nhreorci yn poeni am ddyfodol eu stryd fawr am nad oes digon o arian ar gael mewn peiriannau 'twll yn y wal'.

Fe gaeodd cangen olaf y banc Barclays yn y dref fis Ebrill ac mae'r peiriannau pres sy'n weddill yn ei chael hi'n anodd ymdopi 芒'r galw.

Daw hyn wrth i ymchwiliad gan y Pwyllgor Materion Cymreig ddarganfod bod mwy nag 20 o ganghennau banc wedi cau yng Nghymru eleni.

Mae Barclays wedi dweud eu bod yn dod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi cwsmeriaid, yn dilyn cau cangen Treorci.

'Rydym ni wedi gorfod troi cwsmeriaid i ffwrdd'

Ar Stryd Bute yn y dref, mae Sara Bailey yn rhedeg siop goffi Hot Gossip.

Dywedodd bod ei busnes ac eraill wedi dioddef ers i fanc Barclays gau ei ddrysau fis diwethaf.

鈥淧an aeth Barclays, fe aeth 芒鈥檙 arian parod oedd ganddo. Dywedodd staff y banc wrtha鈥 i mai hwn oedd y peiriant arian prysuraf yn ne Cymru!

鈥淢ae gennym ni ddau beiriant arian arall yn y dref, ac roedd yn cyrraedd pwynt lle鈥檙 oedd gormod o alw arnyn nhw.

鈥淩ydym yn fusnes arian parod yn unig yma, felly rydym wedi gorfod troi cwsmeriaid i ffwrdd. Mae rhai busnesau eraill yma wedi gorfod gwneud yr un peth.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Sara Bailey ei bod "wedi gorfod troi cwsmeriaid i ffwrdd" gan mai dim ond arian parod y mae'r busnes yn ei dderbyn

Ar y stryd fawr, ychydig ddrysau i lawr o Hot Gossip, mae Nicola Lund yn helpu ei thad i redeg siop gardiau.

鈥淢ae鈥檙 broblem gyda鈥檙 arian parod yn cael llawer o effaith yma,鈥 meddai.

"Mae'r swyddfa bost dipyn o ffordd i mewn i鈥檙 dref hefyd, felly os oes rhaid i bobl h欧n gerdded i lawr yno i gael arian parod, a dydyn nhw ddim eisiau cerdded yn 么l, dydw i ddim yn eu beio.鈥

"Mae 'na siop ff么n symudol drws nesaf i ni, sydd wedi dweud wrthon ni fod nifer yr ymwelwyr wedi gostwng ers i鈥檙 banc gau.

"Rwy鈥檔 poeni am ddyfodol y busnes oherwydd hyn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Nicola Laud ei bod yn "poeni am ddyfodol y busnes" gan fod y banc wedi cau

Nid Treorci yw'r unig le sy'n wynebu problem o'r fath.

Mae Aberpennar, sydd hanner awr o Dreorci, yn wynebu sefyllfa debyg.

Does gan y dref ddim banc ers i fanc Lloyds gau yn 2017.

Er hynny, mae disgwyl i ganolfan fancio agor yno'r flwyddyn nesaf.

Bydd y ganolfan yn cael ei rhedeg gan weithwyr Swyddfa'r Post, gyda chwsmeriaid unrhyw fanc yn gallu codi arian parod, a gwneud taliadau.

Bydd y gwasanaeth yn ymuno 芒 saith arall ledled Cymru ac mae dau ohonyn nhw eisoes wedi agor - yn Y Trallwng a Phrestatyn.

Mae disgwyl i ganolfannau agor yn Abergele, Abertyleri, Treforys, Porthcawl a Rhisga yn y dyfodol.

Canolfan fancio newydd

Yn Nhreorci, mae safle dros dro wedi ei hagor, yn eironig, ar safle hen fanc Barclays ar Stryd Bute.

Bydd yr hwb, fel y gweddill yng Nghymru, ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng naw y bore a phump y nos.

鈥淩wy鈥檔 gobeithio y bydd yn helpu i leddfu rhywfaint o鈥檙 pwysau sydd ar y peiriannau arian parod鈥 meddai Sara.

鈥淥nd fydd y gwasanaeth ddim ar gael gyda鈥檙 nos nac ar benwythnosau, felly bydd yn effeithio ar yr economi gyda鈥檙 nos sydd gennym yma hefyd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma lle oedd yr hen 'dwll yn y wal' yn Nhreorci

Mae ymchwil gan y sefydliad defnyddwyr Which? yn awgrymu erbyn diwedd 2025, y bydd Cymru wedi colli dwy ran o dair o鈥檙 canghennau banc a oedd ar agor yn 2015, gan adael dim ond 188 ar 么l yn y wlad.

Mae鈥檙 Pwyllgor Materion Cymreig wedi dechrau ymchwiliad i鈥檙 sefyllfa o ran cau banciau yng Nghymru, yn ogystal 芒 mynediad at wasanaethau.

Maen nhw wedi darganfod bod nifer y canghennau banc a chymdeithasau adeiladu yng Nghymru wedi gostwng o 695 yn 2012, i ddim ond 435 yn 2022, ac y bydd 22 o ganghennau banc y stryd fawr yn cau yn 2024.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Adrian Buckle y bydd y canolfannau bancio yn "dda i ddefnyddwyr"

鈥淩ydym wedi gweld tuedd gynyddol dros amser o fanciau yn gorfod adolygu costau rhedeg eu canghennau,鈥 meddai Adrian Buckle, Pennaeth Ymchwil UK Finance.

鈥淥s ewch yn 么l 15 mlynedd, roedd chwech o bob 10 taliad a wnaethom yn cael eu gwneud gan ddefnyddio arian parod 鈥 ond, ers llynedd, mae hyn wedi gostwng i tua 14% o鈥檙 taliadau鈥.

Dywedodd Adrian, er nad yw鈥檔 disgwyl i ganghennau banc ddod yn rhywbeth sy鈥檔 perthyn i鈥檙 gorffennol, y gallai鈥檙 ffordd y mae banciau鈥檔 gweithredu ar y stryd fawr newid, wrth ganolfannau bancio agor.

鈥淩wy鈥檔 meddwl ei fod yn rhywbeth y byddwn yn gweld y diwydiant cyfan yn manteisio arno, a bydd hynny鈥檔 rhywbeth a fydd yn dda i ddefnyddwyr鈥.

Tueddiadau cwsmeriad wedi newid yn sylweddol

Mewn datganiad, mae Barclays wedi dweud bod tueddiadau cwsmeriaid wedi newid yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi鈥檌 adlewyrchu yng nghangen Treorci, gyda鈥檙 mwyafrif bellach yn dewis bancio ar-lein.

Ychwanegodd eu bod wedi darparu fan symudol ddeuddydd yr wythnos, ers i'r gangen gau.

Mae Cash Access UK wedi cadarnhau ei fod yn y broses o gael safle yn y dref i ddarparu cartref parhaol i鈥檙 ganolfan fancio.

Dywedodd y cwmni i ganolfan fancio gael ei hargymhell ar gyfer Treorci'r llynedd gan gwmni LINK.

Fe wnaethon nhw ychwanegu y bydd yr ganolfan dros dro yn parhau i fod ar gael, hyd nes bod y ganolfan barhaol newydd yn agor.

Pynciau cysylltiedig