Neil Foden: Merch wedi edrych am gymorth ar-lein
- Cyhoeddwyd
Roedd merch ifanc sy'n honni bod Neil Foden wedi ei cham-drin yn rhywiol wedi chwilio ar-lein am gyngor yngl欧n 芒 sut i ddatgelu hynny i'w rhieni.
Roedd Mr Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.
Mae'n gwadu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud 芒 phum plentyn.
Mae'r honiadau'n dyddio o Ionawr 2019 hyd at Fedi 2023 ac yn cynnwys 13 o gyhuddiadau o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.
- Cyhoeddwyd2 Mai
- Cyhoeddwyd1 Mai
- Cyhoeddwyd30 Ebrill
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener gan y Ditectif Gwnstabl Jayne Marsden o Heddlu Gogledd Cymru.
Roedd hi wedi creu amserlen o negeseuon honedig a gafodd eu hanfon rhwng Mr Foden a'r achwynwyr drwy ddadansoddi data o'u ffonau symudol a dyfeisiau eraill.
Dywedodd John Philpotts KC ar ran yr erlyniad fod merch sy'n cael ei chyfeirio ati fel Plentyn A wedi chwilio am wybodaeth ar-lein am feithrin perthnasau amhriodol.
Nodwyd ei bod hi wedi gofyn cwestiynau fel 'sut mae dweud os yw dyn h欧n yn bod yn gl锚n neu yn ceisio meithrin perthynas a chi?' a 'dwi'n meddwl bod rhywun yn ceisio meithrin perthynas rhywiol a fi, beth ydw i'n fod gwneud?'.
Honnir fod gan Mr Foden nifer o luniau anweddus o Blentyn A yn ei feddiant.
Dywedodd Mr Philpotts KC fod negeseuon ar ffon symudol Plentyn A wedi dod o rif sy'n cyd-fynd 芒 rhif Mr Foden, ond ei fod wedi ei arbed dan yr enw "Nick Jones".
Clywodd y llys bod un o'r negeseuon yn dweud: "Byddwn i wrth fy modd gyda fideo arall".
Ar 么l i'r ferch ofyn iddo egluro'r neges, yr ymateb oedd "ohonot ti xx. Fideo neu lun. Dwi wrth fy modd yn sb茂o arnat ti, ti mor brydferth", meddai Mr Philpotts.
Yn gynharach fe wnaeth yr erlyniad nodi rhestr o ffeithiau oedd wedi cael eu cytuno ar y cyd 芒'r amddiffyniad.
Ymhlith y ffeithiau hynny oedd dau ddatganiad a gafodd eu rhoi i'r heddlu gan Mr Foden wedi iddo ddewis peidio gwneud sylw yn ystod sawl cyfweliad gyda'r heddlu.
Roedd y cyntaf yn dweud: "Rydw i'n gwrthod yr awgrym fy mod i wedi ymosod yn rhywiol, neu wedi cyflawni unrhyw weithgaredd rhywiol gyda'r achwynwyr."
Nododd yr ail: "Rydw i'n gwrthod yr awgrym fy mod i wedi cyflawni unrhyw drosedd yn erbyn Plentyn E. Dydy'r honiadau yn fy erbyn ddim yn wir, ni wnaeth hynny ddigwydd. Cefais i ddim cysylltiad rhywiol gyda hi o gwbl."
Bydd ar achos yn parhau yn Llys y Goron y Wyddgrug yr wythnos nesaf.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 大象传媒.