大象传媒

Y Cofis yn paratoi i herio Ewrop

Caernarfon yn dathlu ar 么l curo PenybontFfynhonnell y llun, FAW/Sam Eaden
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Caernarfon yn dathlu ar 么l curo Penybont yn rownd derfynol y gemau ail gyfle

  • Cyhoeddwyd

Cyrraedd Ewrop fu'r freuddwyd erioed i Glwb P锚l-Droed Tref Caernarfon a鈥檜 cefnogwyr 鈥 ac maen nhw ar fin gwireddu hynny.

Bydd y Canaries yn chwarae yn erbyn Crusaders o Ogledd Iwerddon yn rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair Cyngres Europa.

'Wedi dod yn agos o'r blaen'

Mae Richard Davies yn falch iawn o fod y rheolwr cyntaf i arwain Caernarfon i Ewrop, rhywbeth maen nhw wedi ceisio ei wneud ers blynyddoedd.

鈥淒yna ydi鈥檙 targed bob tro dechrau鈥檙 flwyddyn,鈥 meddai Richard Davies.

鈥'Da ni鈥檔 gwybod tydio mor hawdd 芒 hynny ac mae 鈥榥a lot o dimau da yn y gynghrair.

鈥'Da ni wedi bod yn agos o鈥檙 blaen 鈥 wedi colli mewn semi-ffeinals, colli mewn ffeinals a 'di curo mewn play-off ond yn anffodus mynd i Scotland oedd y prize yr adeg yna a dim Ewrop.

So mae gwneud o a bod y t卯m cynta i wneud o yn ffantastig.鈥

Ffynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rheolwr Caernarfon, Richard Davies

Roedd torf o dros 1,900 yn bresennol yn Yr Oval n么l ym mis Mai wrth i fuddugoliaeth o 3-1 dros Benybont yn rownd derfynol y gemau ail gyfle sicrhau lle yn Ewrop.

Mae鈥檙 diwrnod hwnnw yn dal yn ffres yn y cof ac am aros yn y cof am amser maith, meddai Richard Davies.

鈥淥dd o鈥檔 ffantasig o ddiwrnod ac achlysur amazing i ni fel clwb 鈥 i鈥檙 chwaraewyr, i鈥檙 bwrdd ac yn enwedig y ffans,鈥 ychwanegodd.

鈥淒wi鈥檔 meddwl o'dd y dathliadau ar y diwedd rhwng yr hogia ifanc a鈥檙 hogia h欧n ar y cae yn dweud bob dim amdanan ni fel clwb.

鈥'Da ni鈥檔 glwb i'r gymuned, ac odd y support oedd yma y diwrnod yna yn amazing a 'swn i鈥檔 dweud y gorau yn y gynghrair.

鈥淥dd o鈥檔 neis rhoi rhywbeth yn 么l i鈥檙 ffans.鈥

Un enw amlwg fydd ddim yn chwarae rhan i'r Canaries yn Ewrop fydd Sion Bradley, gyda Chwaraewr y Tymor Uwchgynghrair Cymru yn ymuno gyda'r Seintiau Newydd.

Chwarae yn Nantporth

Gyda鈥檙 Oval ddim yn cyrraedd gofynion Uefa i gynnal y g锚m gartref mi fydd Caernarfon yn chwarae yn Nantporth, Bangor.

Mae'n benderfyniad sydd wedi ennyn trafodaeth ymysg rhai o gofio'r elyniaeth draddodiadol rhwng Caernarfon a Clwb Dinas Bangor.

Ond gyda Neuadd y Parc yng Nghroesoswallt yr unig opsiwn arall oedd ar gael i鈥檙 clwb, roedd hi鈥檔 bwysig nad oedd cefnogwyr Caernarfon yn gorfod teithio鈥檔 rhy bell i wylio eu t卯m.

鈥淢ae鈥檔 agosach at adra ac yn haws i bawb fynd yna,鈥 meddai Richard Davies.

鈥淔el rheolwr mi fydda ni鈥檔 chwarae ar wair ac nid 4G a dwi鈥檔 meddwl bydd hynna鈥檔 siwtio ni'n well gan 'na dyna 'da ni鈥檔 chwarae ar Yr Oval.

鈥淢ae 鈥榥a dipyn bach o dwrw wedi cael ei wneud amdano fo ond fel clwb 鈥榙a ni jest yn meddwl am y rhesymau iawn a be' 鈥榙a ni'n trio wneud ydi gwneud yn si诺r 'da ni鈥檔 cael ein enw yn y rownd nesaf.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Crusaders sydd gan y trydydd nifer fwyaf o bencampwriaethau yng Ngogledd Iwerddon, tu 么l i Linfield a Glentoran

Bydd Caernarfon yn wynebu Crusaders yn y cymal cyntaf ym Mangor ar 11 Gorffennaf gyda鈥檙 ail gymal ym Melffast wythnos yn ddiweddarach.

Gorffennodd Crusaders yn bedwerydd yn Uwchgynghrair Gogledd Iwerddon y tymor diwethaf ac fel Caernarfon fe sicrhawyd lle yn Ewrop drwy ennill y gemau ail gyfle.

鈥淢aen nhw鈥檔 d卯m da ac yn d卯m llawn amser," ychwanegodd.

鈥淒wi鈥檔 disgwyl iddyn nhw fod o safon uchel. 'Da ni o hyd yn mynd i fod yn underdogs a 鈥榙a ni yn licio bod yn underdogs ac mi wnawn ni godi i鈥檙 sialens yna.鈥