大象传媒

S4C yn dechrau'r broses o recriwtio prif weithredwr nesaf y sianel

Adeilad S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu ymchwiliad i awyrgylch gwaith S4C y llynedd ar gost o dros 拢500,000 i'r sianel

  • Cyhoeddwyd

Mae bwrdd S4C wedi penodi penhelwyr (headhunters) i recriwtio prif weithredwr nesaf y sianel.

Cafodd Si芒n Doyle ei diswyddo o'r r么l ym mis Tachwedd y llynedd yn sgil honiadau o fwlio.

Sioned William sydd wedi bod yn brif weithredwr dros dro ers cael ei phenodi ym mis Chwefror.

Mae disgwyl i gwmni Odgers Berndtson weithio gyda'r bwrdd unedol i lunio proses recriwtio, medd S4C, gyda'r bwriad o hysbysebu'r r么l o fis Medi.

Yn y cyfamser, mae'r darlledwr yn hysbysebu am swydd i ofalu am staff a chreu "awyrgylch gwaith cadarnhaol, cefnogol a chynhwysol".

Bydd cyflog o hyd at 拢90,000 i'r Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant, a bydd y swyddog hefyd yn aelod o d卯m rheoli S4C. Nid yw'r r么l honno yn un newydd.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Sioned Wiliam ei phenodi'n brif weithredwr dros-dro wedi i Si芒n Doyle gael ei diswyddo

Wrth hysbysebu am Gyfarwyddwr Pobl a Diwylliant, dywed S4C fod creu awyrgylch gwaith cadarnhaol yn "ganolog" i'w blaenoriaethau "yn dilyn cyfnod heriol".

Bydd gofyn i'r swyddog lunio strategaeth i ddenu, cadw a datblygu staff, "a chreu amgylchedd sy'n caniat谩u i bawb sy'n gweithio gyda ni deimlo'n ddiogel a bod y gorau y gallent fod".

Rhaid bod gan ymgeiswyr o leiaf pum mlynedd "ddofn" o brofiad ym maes adnoddau dynol.

Bydd gan y swyddog gyflog rhwng 拢85,000 a 拢90,000.

Ymchwilio i 'fwlio ac ofn'

Fe wnaeth cwmni cyfreithiol ymchwilio i awyrgylch gwaith S4C yn 2023 wedi i undeb Bectu honni fod "diwylliant o ofn" ymhlith staff y sianel.

Daeth i'r amlwg yr wythnos ddiwethaf fod S4C wedi gwario dros 拢500,000 ar yr ymchwiliad.

Disgrifiodd y cadeirydd dros dro hynny fel testun "ychydig o embaras" ond fod y sianel yn "symud i'r cyfeiriad cywir" o'i herwydd.

Mewn datganiad ddydd Gwener, cadarnhaodd Guto Bebb y byddai Sioned Wiliam yn parhau yn ei swydd tan y bydd y prif weithredwr nesaf yn dechrau.

Pynciau cysylltiedig