Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwestiynau difrifol i'r 大象传媒 dros achos Huw Edwards
Bydd ysgrifennydd diwylliant y DU yn siarad 芒 chyfarwyddwr cyffredinol y 大象传媒 ddydd Iau am ymateb y gorfforaeth i achos Huw Edwards.
Daeth i'r amlwg nos Fercher bod y 大象传媒 wedi cael gwybod fod Edwards wedi'i arestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud 芒 lluniau o gam-drin plant ym mis Tachwedd 2023.
Mewn datganiad brynhawn Mercher, roedd y 大象传媒 ond wedi cyfeirio atynt fel "troseddau difrifol," heb fanylu ar eu natur.
Mae cyfarwyddwr cyffredinol y 大象传媒 bellach wedi cadarnhau fod categori'r troseddau wedi'i rannu 芒'r 大象传媒.
Yn 么l un sy'n gyfarwydd 芒'r sefyllfa, fe ddywedodd Heddlu'r Met wrth y 大象传媒 ar y pryd i beidio 芒 rhannu'r manylion.
Cafodd y cyhoedd wybod am y datblygiad hwnnw yr wythnos hon.
Mae pwysau ar y gorfforaeth i egluro pam na chafodd Edwards ei ddiswyddo wedi i'r 大象传媒 ddod i wybod ei fod o wedi cael ei arestio, a pham barhaodd i'w dalu am bum mis wedi hynny.
Gadawodd Edwards y 大象传媒 ym mis Ebrill 2024 ar sail "cyngor meddygol".
Cafodd gyflog rhwng 拢475,000 a 拢479,999 yn 2023/24, yn 么l cyfrifon diweddaraf y 大象传媒 - cynnydd o 拢40,000 ar y flwyddyn gynt.
Fe wnaeth yr ysgrifennydd diwylliant, Lisa Nandy alw cyfarfod brys 芒 Tim Davie er mwyn cael "eglurder pellach" ar y sefyllfa nos Fercher.
Mae disgwyl i'r ddau siarad dros y ff么n ddydd Iau.
Wedi i Edwards bledio'n euog ddydd Mercher, dywedodd llefarydd ar ran y 大象传媒 eu bod wedi eu "syfrdanu gan weithredoedd Mr Edwards" a'u bod yn "cydymdeimlo 芒'r rhai sydd wedi eu heffeithio".
大象传媒 wedi ymateb yn 'deg a phwyllog'
Fe wnaeth cyfarwyddwr cyffredinol y 大象传媒, Tim Davie amddiffyn y penderfyniad i beidio 芒 diswyddo Edwards.
Dywedodd ddydd Iau bod y gorfforaeth wedi gwneud "penderfyniadau anodd mewn modd teg a phwyllog".
"Mi oedden ni'n gwybod fod y peth yn ddifrifol," meddai.
"Doedden ni ddim wedi derbyn unrhyw fanylion, heblaw am gategori'r troseddau posib."
Doedd y 大象传媒 ddim yn ymwybodol o oed y plant yn y delweddau.
Ychwanegodd ei fod "bron yn amhosib" tynnu pensiwn Edwards oddi arno.
"O ran cyflog, eto, mae'n heriol yn gyfreithiol, ond mi wnawn ni edrych ar bob opsiwn."
Alex Williams, 25 o Ferthyr Tudful, oedd y dyn wnaeth rannu'r lluniau gydag Edwards.
Cafodd ei ddedfrydu i flwyddyn o garchar wedi ei ohirio ym mis Mawrth, ar 么l pledio'n euog i fod 芒 delweddau categori A, B a C yn ei feddiant, yn ogystal 芒 rhannu delweddau anweddus o blant.
Fe ddywedodd ei gymdogion wrth Newyddion S4C eu bod wedi'u "synnu" gan y newyddion.
Dywedon nhw eu bod yn "gwybod dim" am y ddedfryd ym mis Mawrth.
Yn 么l un sy'n byw ar stryd Williams, mae'r dyn 25 oed yn fyfyriwr prifysgol sy'n teithio'n "么l a 'mlaen" i d欧 ei rieni.
Mae'r 大象传媒 ar ddeall y bu ei rieni yn y t欧 heddiw, ond ni wnaeth unrhyw un ateb y drws i Newyddion S4C.
Dywedodd cymdogion Williams nad oedden nhw wedi gweld ef na'i gar am sawl diwrnod.