´óÏó´«Ã½

'Unrhyw beth yn bosib' i'r Gweilch yn Munster - Morgan

Disgrifiad,

Mae Jac Morgan yn gwybod bod her yn disgwyl y Gweilch yn erbyn Munster yn yr wyth olaf

  • Cyhoeddwyd

Ar drothwy rownd olaf tymor arferol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, 2% yn unig oedd y tebygolrwydd o'r Gweilch yn cyrraedd yr wyth uchaf yn ôl yr ystadegau swyddogol.

Er mwyn cyflawni'r annisgwyl, roedd rhaid i dîm Toby Booth sicrhau buddugoliaeth pwynt bonws yn erbyn Caerdydd, tra'n dibynnu ar dair, ie tair, canlyniad arall i fynd o’u plaid.

Roedd y sefyllfa mor annhebygol doedd neb, yn ôl y prif hyfforddwr, yn meddwl byddai hynny yn digwydd mewn gwirionedd.

Yn hytrach, y nod oedd gorffen y tymor yn gryf ac edrych yn ôl ar hyn sydd wedi ei gyflawni'r tymor hwn, tra'n ystyried yr hyn allai wedi bod ar yr un pryd.

Roedd y chwaraewr rheng-ôl Jac Morgan yn gytûn nad oedd unrhyw ystyriaeth i’r posibilrwydd hwnnw cyn y gêm, a bod nifer eisoes yn paratoi gwyliau ar y traeth!

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd buddugoliaeth y Gweilch yn erbyn y Dreigiau ar 17 Mai yn ddigon i gadw eu gobeithion o gyrraedd y gemau ailgyfle yn fyw

Gêm y Gweilch yn erbyn Caerdydd oedd y gêm hwyr ar 'Ddydd y Farn', ac yn allweddol erbyn hynny roedd Connacht, Lions a Chaeredin i gyd wedi boddi wrth ymyl y lan a’r sefyllfa’n glir i'r Gweilch.

Ennill a chipio pwynt bonws yn erbyn tîm y brifddinas ac roedd eu lle yn yr wyth uchaf yn ddiogel - a gêm yn erbyn Munster.

"O'dd y bois ddim yn gallu credu’r peth a bod yn onest – o'dd e’n sefyllfa eitha' anodd achos o' ni’n paratoi i wynebu Caerdydd – o'dd honna yn mynd i fod yn gêm anodd ynddo’i hun," meddai Morgan.

"Ond alla i ddim gwadu, o'dd clywed y canlyniadau i gyd wedi rhoi hwb enfawr i ni yn mynd mewn i’r gêm ond o'dd dal rhaid i ni berfformio, ac mewn ffordd o'dd y pwyse hyd yn oed yn fwy achos o'dd pawb yn teimlo nad oedd modd gwastraffu'r cyfle yma."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae "unrhyw beth yn bosib" yn y rownd gynderfynol, yn ôl Jac Morgan

Nid ar chwarae bach mae cyrraedd y gemau ailgyfle chwaith, a dyma’r tro cyntaf i dîm o Gymru gyflawni hynny ers y Scarlets 'nôl yn 2018.

Mae’r anghydfod sy'n amgylchynu’r gêm ranbarthol wedi bod yn amlwg i bawb yn sgil y trafferthion ariannol yng Nghymru.

Ond, yn raddol, mae’r Gweilch wedi dechrau gwyrdroi'r naratif negyddol hwnnw gyda 10 buddugoliaeth yn y gynghrair eleni, cyfanswm o 14 yn cynnwys gemau Ewrop, sy'n arwydd fod 'na seiliau cadarn yn cael eu gosod.

'Dylen ni fod yn falch iawn'

Ychwanegodd Morgan: “Ma’r bois wedi 'neud yn wych, dyw pethe ddim wedi bod yn rhwydd yng Nghymru ond yn ystod y tymor ni 'di curo Ulster a'r Sharks.

"Ni 'di mynd mas i Cape Town ac ennill. Mewn ffordd 'nethon ni fe’n anodd i’n hunain, ond dylen ni fod yn falch iawn, yn enwedig mewn tymor Cwpan y Byd."

Mae’r ymdeimlad yma’n ddealladwy, ac er nad yw cyrraedd yr wyth ola’n ysgytwol o bell ffordd, ar yr un pryd mae’n werth ei chofnodi wedi sawl tymor truenus i’r timau proffesiynol.

Dyw’r gamp, serch hynny, ddim wedi’i wobrwyo gan Warren Gatland o ran y gynrychiolaeth fydd yn mynd ar y daith i Awstralia yn ddiweddarach yn y mis.

Chwech yn unig sydd wedi’u cynnwys o’r rhanbarth, tri yn llai nag o Gaerdydd a hynny er eu bod wedi ennill mwy na chyfanswm gweddill timau Cymru gyda’i gilydd!

Mae 'na godi aeliau wedi bod ynghylch absenoldeb sawl chwaraewr yn enwedig y prop Nicky Smith a’r wythwr Morgan Morris – y naill a’r llall yn anlwcus dros ben nad ydynt yn y 37 terfynol.

Dyw hyn ddim wedi dianc rhag sylw Toby Booth chwaith.

Mae sawl brwydr eiriol eisoes wedi bod rhwng Booth a Warren Gatland yn ystod y tymor, ond er gwaetha’r siom mae’r chwaraewyr o dan sylw yn barod i droi hynny yn rhywbeth cadarnhaol wrth dargedu lle yn y rownd gynderfynol ar yr Ynys Werdd.

Dyw hi ddim yn mynd i fod yn rhwydd wrth gwrs, ac mae sawl tîm wedi profi grym Munster ar Barc Thomond, ond yn ôl Morgan, mae’r tîm o Gymru yn barod i fachu ar y cyfle.

"Ry' ni’n gwybod mai nhw yw’r ffefrynnau clir, nhw yw’r pencampwyr a does dim lot yn mynd draw i Limerick ac ennill, ond ry' ni’n gwybod ar y dydd ein bod ni’n dîm da.

"Ry’n ni 'di profi hynny yn ystod y tymor, ac ar ôl be' ddigwyddodd yn y rownd ddiwethaf chi ddim yn gwybod ma' unrhyw beth yn bosib."

Pynciau cysylltiedig