大象传媒

'Diffyg parch' i ogof芒u hanesyddol yn 'druenus'

GaewernFfynhonnell y llun, Gerard Carton
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dylai pobl "barchu hanes" a'r bobl fu farw wrth weithio yn y chwareli, meddai Gareth Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae'n "druenus" gweld sbwriel yn cael ei adael mewn hen chwareli sy'n "bwysig i Gymru" yn 么l gwirfoddolwr sy'n ceisio eu glanhau.

Roedd Gareth Jones yn un o d卯m o wirfoddolwyr aeth ati i glirio safleoedd cloddio yn ne Gwynedd dros y Pasg.

Mae'r safleoedd hanesyddol yn denu dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol sy'n gadael sbwriel ar eu holau, meddai Mr Jones.

Ar Dros Frecwast, dywedodd y dylai pobl "barchu hanes y llefydd" a'r bobl fu farw wrth weithio yna.

"Ni'n gwagio'r holl sbwriel syn cael ei adael gan yr influencers 'ma o YouTube ac Instagram," meddai.

"Ma'n broblem yn y llefydd mawr dros y wlad... a 'di pobl ddim yn sylweddoli faint o beryglus 'di'r llefydd 'ma, yn cerdded i fewn gyda bin bags dros eu sgidiau a'n gadael rubbish ar 么l."

Ffynhonnell y llun, Gareth Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gareth Jones a'r gwirfoddolwyr gyda'r sbwriel gafodd ei gasglu

Cafodd pentyrrau o sbwriel eu tynnu allan o Chwarel Gaewern yng Nghorris Uchaf, ger Machynlleth, gan y t卯m ym mis Mawrth.

Yn 么l Anthony Taylor - a oedd yn gwirfoddoli gyda Mr Jones - mae fideo poblogaidd ar YouTube o hen geir wedi'u gadael ar y safle wedi dod 芒 mewnlifiad o ymwelwyr.

Mae cannoedd o luniau o'r "bedd ceir" wedi ymddangos ar Instagram ers i'r fideo gael ei gyhoeddi.

"Mae rhain yn llefydd prydferth a tydi llawer o bobl ddim eisiau gweld nhw'n cael eu difetha," meddai Mr Taylor, 42, o Aberystwyth.

"Mae'n ymddangos bod Instagram yn lladd llawer o bethau," meddai. "Mae pobl yn troi i fyny, yn tynnu llun ac yna'n gadael [llanast]."

Ffynhonnell y llun, Gerard Carton
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Anthony Taylor yn glanhau'r graffiti oddi ar waliau'r ogof

Mae Chwarel Gaewern ar dir preifat. Agorwyd y safle yn 1820, ac fe barhaodd y cloddio ar 么l uno 芒 Chwarel Braichgoch tan y 1970au, gan gyflogi 200 ar un cyfnod.

Ar 么l iddo gau, cafodd hen geir a setiau teledu eu taflu i un o'r prif siambrau.

Ar adegau, mae'r domen o fetel sgrap rhydlyd yn cael ei oleuo gan siafftiau o olau'r haul.

鈥淢ae鈥檔 le rhyfedd, tebyg un o鈥檙 llefydd rhyfeddaf yn y byd,鈥 cofiodd Mr Taylor o鈥檌 ymweliad cyntaf yn 2022.

"Pa mor aml 'da chi'n gweld cannoedd o geir dan ddaear gyda goleuadau'n dod arnyn nhw o'r haul?"

Ffynhonnell y llun, Anthony Taylor
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae olion y glowyr ar y waliau ond mae rhai wedi'u gorchuddio gan graffiti

Ond i gyrraedd yna, roedd rhaid iddo fynd heibio'r bagiau bin oedd wedi'u taflu ger y y fynedfa ar 么l cael eu defnyddio gan ymwelwyr i geisio cadw eu traed yn sych.

"O tua 30 troedfedd (9m) i mewn, mae'r graffiti'n dechrau, ac ma'n ofnadwy," meddai.

Mae鈥檙 graffiti yn gwaethygu yn y brif siambr tuag at y ceir, meddai, gyda mwy o sbwriel ar y llawr, gan gynnwys ffyn golau wedi鈥檜 taflu a gwastraff dynol.

"Pan ti'n cyrraedd y diwedd, dim ond m么r o gychod sydd yna, dingis aer ym mhobman," meddai.

鈥淢ae'n ffiaidd, yn drist iawn ac yn ddigalon."

Ffynhonnell y llun, David Winstanley
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gwirfoddolwyr wedi cael gwared o 30 o ddingis o'r ogof, meddai Mr Taylor

Dywedodd Mr Taylor bod y t卯m wedi tynnu gymaint o ddingis allan ag y gallent a'i fod o wedi cynnal sesiwn lanhau arall gyda chwe gwirfoddolwr ar 22 Mawrth.

鈥淩oedd yn rhaid gwneud rhywbeth,鈥 meddai, gan amcangyfrif bod gwirfoddolwyr wedi cael gwared 芒 30 o ddingis i gyd.

"Y bobl sy'n mynd i'r lleoedd hyn, dylanwadwyr maen nhw'n galw eu hunain... maen nhw'n mynd oherwydd bod gan y llefydd 'ma werth cynhenid 鈥嬧嬧嬧媔ddynt. Pam dinistrio nhw i bawb arall?"

Gobaith Mr Taylor ydy addysgu pobl am werth yr hen fwyngloddiau, ond mae'n ofni y gallai safleoedd fel Gaewern gael eu cau yn barhaol.

"Os ydy hyn yn dal i ddigwydd, bydd yn golled i bawb am byth."

Pynciau cysylltiedig