大象传媒

Cau ysgol uwchradd yng Ngwynedd ar 么l canfod llygod mawr

Ysgol TryfanFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae llygod mawr wedi'u darganfod ym mhrif adeilad Ysgol Tryfan, Bangor

  • Cyhoeddwyd

Bydd Ysgol Tryfan ym Mangor ar gau ddydd Iau ar 么l i lygod mawr gael eu darganfod ym mhrif adeilad y safle.

Mewn e-bost at rieni, dywedodd yr ysgol eu bod wedi gwneud y penderfyniad yn dilyn trafodaethau gyda swyddogion o Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd.

Bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion ddydd Gwener hefyd ar gyfer hyfforddiant staff cyn gwyliau hanner tymor.

Dywedodd yr ysgol: "Credwn ei bod yn briodol i ni gau ddiwrnod ynghynt er mwyn delio鈥檔 llawn gyda鈥檙 broblem ar unwaith, fel y gallwn ailagor yn dilyn gwyliau鈥檙 hanner tymor, ddydd Llun, 4 Tachwedd."

Pynciau cysylltiedig