Teyrngedau i'r gohebydd moduro Huw Thomas
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i'r gohebydd moduro Huw Thomas, sydd wedi marw yn 73 oed.
Bu'n gohebu ar y diwydiant ceir i nifer o bapurau - gan gynnwys Y Cymro, Y Tir ac Y Wawr - am flynyddoedd lawer a byddai'n cael ei gyfweld yn gyson gan raglenni radio a theledu.
Cafodd ei addysg yn Wrecsam - Ysgol Bodhyfryd yn gyntaf ac yna Ysgol Grove Park yn y ddinas.
Aeth yna i'r brifysgol yn Aberystwyth i astudio'r gyfraith cyn ei benodi'n ddarlithydd ar y gyfraith ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl.
Roedd yn fab i'r diweddar Barchedig T Glyn Thomas a'i wraig Eleanor - ei dad yn weinidog gyda'r annibynwyr a'i frawd Rhodri Glyn yn gyn-aelod Plaid Cymru yn y Cynulliad (fel yr oedd yn cael ei adnabod ar y pryd).
'Gadael argraff ar bawb'
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd Cymdeithas Ysgrifenwyr Moduro Cymru, sy'n gr诺p o bobl sy'n ysgrifennu am y diwydiant ceir, bod marwolaeth Mr Thomas yn "ergyd".
Roedd wedi bod yn gadeirydd ar y gr诺p am ddegawd.
"Roedd Huw yn gadael argraff ar bawb roedd e'n dod i gysylltiad 芒 nhw," meddai'r cadeirydd Simon Harris wrth siarad 芒 Cymru Fyw.
"Roedd e mor frwdfrydig am geir, ei wybodaeth yn eang ac roedd e'n angerddol am hanes Cymru a'r iaith Gymraeg.
"Roedd e'n gyfrannwr cyson i raglenni Radio Cymru - ac yn aml pan fydden i'n teithio gydag e fe fyddwn i'n stopio mewn man lle roedd signal cryf er mwyn iddo gael gwneud cyfweliad - roedd e fel arfer yn canolbwyntio ar sgil-effaith unrhyw gyhoeddiad ar ffatri'r cwmni dan sylw yng Nghymru.
"Ry'n ni'n cydymdeimlo gyda'i bartner Peter a'i deulu agos."
Ychwanegodd Mark James, sydd hefyd yn gohebu ar foduro, fod y newyddion am farwolaeth Huw Thomas "yn siom".
"Roeddwn yn ei adnabod ers oddeutu 17 mlynedd ac roedd e'n adnabod pawb yn y diwydiant ceir ac yn fodlon siarad 芒 chadeirydd neu brif weithredwr Ford neu unrhyw gwmni ar gyfer y cyfryngau Cymraeg.
"Roedd e'n teimlo ei bod hi'n bwysig fod y wasg yng Nghymru yn cael gwybodaeth o lygad y ffynnon.
"Bu'n hynod o gefnogol i fi pan ro'n i'n cadeirio gr诺p tebyg iddo fe - sef newyddiadurwyr de Cymru a de-orllewin Lloegr. Bydd colled fawr ar ei 么l."
'Pleser darllen ei erthyglau'
Dywedodd Tegwen Morris, cyfarwyddwr Merched y Wawr: "Fe fuodd Huw Thomas yn ysgrifennu erthyglau i'r Wawr am flynyddoedd lawer.
"Bu ei fam yn un o lywyddion Merched y Wawr ac roedd hi wastad yn bleser darllen ei erthyglau - erthyglau difyr a oedd yn mynd 芒 ni ar draws y byd.
"Ry'n yn cydymdeimlo yn fawr gyda'r teulu."