Atyniad newydd Stadiwm Principality
- Cyhoeddwyd
Bydd Stadiwm y Principality yn agor atyniad cyffrous newydd ar 29 Ebrill wedi gwaith 15 mlynedd o gynllunio.
Mae Scale yn caniatau i ymwelwyr 芒'r stadiwm gerdded ar hyd to'r stadiwm, gwneud 'zip line' o un pen y stadiwm i'r llall ac abseilio'n 么l i'r ddaear!
Mae Troy Williams, 23 o Dreharris, sy'n ymladdwr t芒n ar alw wedi dechrau gweithio yno'n arwain y cyhoedd drwy'r antur. Eglurodd ef "Roedd [y cyfle hwn] yn agor ac o'n i'n chwilio am job arall i 'neud on the side. Dw i'n hoffi bod tu fas, so hyn yw beth fi'n gwneud nawr."
Dywedodd Troy nad oedd arno angen cymhwyster diogelwch ond bu rhaid iddo fynd ar hyfforddiant am bythefnos, ymarfer a chadw ar ben yr hyfforddiant ac yna sefyll prawf.
Mae'r antur sy'n cael ei rhannu'n dri rhan sef, Y Ddringfa (Climb), Y Wifren Wib (Zip Wire) a'r Gwyll (The Drop) ac yn cyrraedd uchder o 60m.
"Pan ti lan 'na," eglura Troy, "ti'n gallu gweld y pitch lle mae Cymru'n chwarae, Castell Caerdydd, Bannau Brycheiniog, yr afon Taf a Bae Caerdydd a llawer mwy.
Fy hoff beth i yw bod fyny 'na. Ti'n gallu gweld popeth. Ti'n gallu siarad gyda pobl eraill o places eraill."
Felly, beth sy'n digwydd pan ti'n cyrraedd Scale?
"Pan ti'n cyrraedd ti'n mynd i gael dy kitio i fyny a wedyn ti'n mynd lawr i basecamp, ac ar 么l cyrraedd y basecamp ti'n mynd lan y staer i'r to.
"I unrhyw un sydd ofn [uchder] fydda i'n siarad 芒 nhw a dweud 'peidiwch 芒 phoeni, peidiwch a meddwl amdano gormod, a jest cael hwyl!"
Un arall sy'n gweithio yno yw Robert Griffin, 66, o Fynwent y Crynwyr ger Treharris. Mae wedi ymddeol ond yn gweithio yn Scale yn rhan amser. Dywedodd:
"Ro'n i'n edrych am rhywbeth anturus yn yr awyr agored, gweithio gyda grwpiau twrisiaeth."
"Dw i'n hoffi gwneud pethau yn yr awyr agored a nes i s么n [wrth y cwmni] bod fi wedi ymddeol. Dw i'n cerdded y ci bob dydd, dw i'n chwarae golff hefyd ond ro'n i'n chwilio am rhywbeth arall hefyd, sialens arall.
Ac felly dyma benderfynu ymuno 芒'r t卯m yn Stadiwm Principality: " Dwi'n 66 felly dw i'n un o'r hen fois gyda Scale. Dw i'n gweithio gyda myfyrwyr... so mae'n cadw fi'n ffit!
Mae'n gyfle gr锚t, ac mae'n gyfle hefyd i hysbysebu Caerdydd hefyd."
Sut mae delio 芒 phobl sydd ag ofn?
"O safbwynt pobl sydd ag ofn, ni wedi cael hyfforddiant fel staff fan hyn. Ni'n teimlo'n eitha' hyderus. Mae technegau i'w helpu nhw o safbwynt iaith a bod yn positif iawn. If that fails, mae 'na ffordd arall i'w helpu nhw hefyd."