大象传媒

Bwyd ci Pero: O Benygroes i Singapore

peroFfynhonnell y llun, Pero
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y warws yn Nyffryn Nantlle

  • Cyhoeddwyd

Os oes gennych chi gi, neu anifail anwes arall, mae'n debygol eich bod wedi dod ar draws y cwmni bwyd anifeiliaid, Pero.

Mae'r cwmni adnabyddus wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd, ac wedi agor warws newydd yn Nyffryn Nantlle yn ddiweddar.

Aeth y cyflwynydd Aled Hughes i'r warws i weld sut mae'r cwmni'n gweithio, yng nghwmni Jonathan Rees, un o gyfarwyddwyr y cwmni. Cafodd y sgwrs ei darlledu ar 大象传媒 Radio Cymru ar 11 Mehefin.

鈥淒echreuodd cwmni Pero ar fferm ym Metws-y-Coed yn 1985," meddai Jonathan.

"Dros y blynydde 'nathon ni dyfu, a daeth y pwynt ble doedd dim posib rhoi estyniad pellach i鈥檙 busnes ym Metws-y-Coed, a felly roedd rhaid symud.

"'Nathon ni ddod o hyd i鈥檙 lle yma (ym Mhenygroes) a gathon ni鈥檙 allweddi yr haf d鈥檞ethaf, a symudon ni fewn ym mis Medi a Hydref.

鈥淢ae鈥檔 dod yn weddol agos i flwyddyn ers i ni fod yma nawr, ac mae wedi bod yn fendigedig."

Ffynhonnell y llun, Pero
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jonathan Rees yn wreiddiol o Gaerfyrddin, ond yn byw a gweithio yn y gogledd ers 20 mlynedd

Er fod y cwmni bellach wedi gadael Betws-y-coed, cod deialu ardal Betws sy'n parhau fel rhif cyswllt i'r cwmni.

鈥淕yda鈥檙 datblygiadau sy鈥檔 y byd technolegol mae鈥檔 system ff么n ni鈥檔 rhan o鈥檙 rhyngrwyd nawr, felly does ddim eisiau newid rhif ff么n," eglurai Jonathan.

Ffynhonnell y llun, Pero

'200 i 300 gwahanol fagiau'

Felly, beth yw'r broses o greu'r bwydydd yma?

鈥淩y鈥檔 ni鈥檔 dod mewn 芒 bagiau yn cynnwys defnyddiau crai, sef y bisgedi mae c诺n yn ei fwyta," meddai Jonathan.

"Mae 鈥榥a tua 70 gwahanol recipe o fwyd yma, a ni鈥檔 dod 芒 nhw mewn o fewn bagiau tote sydd tua tunnell yr un, cyn eu gwasgaru nhw drwy鈥檙 felin.

"Gall un o鈥檙 bagiau tote 鈥榤a fynd i bump neu chwech gwahanol fag i wahanol gwsmeriaid, a mae nhw i gyd yn cael eu bagio yma a鈥檜 paratoi i鈥檙 archebion.

鈥淢ae'r 70 o wahanol fwydydd ganddon ni鈥檔 cael ei wasgaru rhwng 200 i 300 gwahanol fagiau, gyda enwau gwahanol gwmn茂au arnyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Pero

Mae Jonathan yn mynd ymlaen i drafod y gwahanol fathau o fwyd mae Pero yn ei gynnig, a sut mae'r farchnad wedi newid dros y blynyddoedd diweddar.

鈥淢ae pob bwyd 芒 rhyw elfen wahanol iddyn nhw, o鈥檙 bwyd sydd ar gyfer c诺n sy鈥檔 gweithio ar fferm, ble maen nhw angen egni ar gyfer rhannau penodol o鈥檙 flwyddyn i鈥檙 rhannau eraill pan maen nhw鈥檔 gorffwys.

"Ar yr ochr arall mae 鈥榥a fwyd i anifeiliaid anwes, bwyd i鈥檙 鈥榗ost of living range鈥, sydd ar yr ochr rhata' er mwyn helpu pobl gyda'r costau o edrych ar 么l eu hanifeiliaid, i鈥檙 鈥榮uper premium鈥 ble mae鈥檙 bwyd yn seiliedig ar blanhigion, a mae 鈥榥a fwyd pryfed ar gyfer c诺n 鈥 protein pryfed sydd ynddo fe.

鈥淢ae鈥檙 busnes bwyd ci wedi newid yn y 15 mlynedd dwi 鈥榙i bod yn gweithio ynddo. Mae鈥檙 bwyd nawr wedi mynd yn agos iawn at fwyd dynol yn yr enw, er enghraifft 鈥榙y鈥檔 ni鈥檔 gwneud bwyd twrci gyda cranberry.

"Felly, mae鈥檔 bwysig i ni farchnata ar yr ochr sy鈥檔 cymryd teimladau y perchennog fewn i ystyriaeth a wedyn gwneud yn si诺r bo鈥檙 bwyd y safon gorau i鈥檙 c诺n. Ar brydiau chi鈥檔 crafu pen a meddwl bo鈥檙 peth yn hollol hurt, ond dyna鈥檙 sefyllfa ni ynddo.鈥

Allforio dros y byd

Mae'r cwmni bellach wedi creu enw i'w hun yn rhyngwladol, gyda'r cynnyrch yn cael ei allforio ledled y byd.

Yn cyfeirio at ddau archeb sy鈥檔 barod i fynd dywedodd Jonathan, 鈥淢ae dau lwyth yn barod; un yn mynd i Malaysia a鈥檙 llall yn mynd i Dde Corea.

"Ni鈥檔 gwneud Singapore fyd, ac wrth gwrs dros Brydain i gyd.鈥

Ffynhonnell y llun, Pero

Ac yn wahanol i gwmn茂oedd eraill, mae Pero yn caniat谩u i bobl bersonoli'r bwyd.

鈥淢ae鈥檙 lefel o gwsmeriaid sydd 'da ni wedi cynyddu, ac un o鈥檙 pethau ni鈥檔 gwneud yw rhoi鈥檙 cyfle i'r siopau bychain gael enwau eu hunain ar y bwyd.

"Mae 鈥榥a rhywbeth ni鈥檔 galw鈥檔 signature ble mae cwsmer siop fychan yn gallu cael brand ei hunan yn ei siop, ac mae hwnnw鈥檔 newid i bob cwsmer wedyn. Mae lan iddyn nhw beth maen nhw eisiau ar y label; llun y perchennog, llun y ci, llun rhywbeth hollol wahanol.

"Yn draddodiadol os mae rhywun eisiau brand eu hunain maen nhw鈥檔 gorfod prynu bagiau, ac mae鈥檔 gost enfawr i鈥檞 wneud. Gyda'r system ni鈥檔 ddefnyddio mae鈥檙 cwsmeriaid yn gallu archebu un bag gyda鈥檜 henw nhw arno fe.鈥

Cynyddu niferoedd y staff

I gydfynd gyda thwf y cwmni maen nhw hefyd wedi adeiladu melin newydd ar y lleoliad ym Mhenygroes.

Yn naturiol, wrth i'r cwmni dyfu mae'r nifer o weithwyr hefyd yn gorfod tyfu, fel esboniai Jonathan.

鈥淓rs i ni symud yma i Benygroes ni wedi dwblu faint o staff sydd 鈥榙a ni 鈥 ni ar 30 ar hyn o bryd, a ni dal yn edrych i ehangu faint o bobl sy鈥檔 gweithio 鈥榤a; o fewn y warws, mas ar y lon yn gwerthu ac yn y swyddfa. Felly mae yna eitha鈥 dipyn o swyddi o wahanol lefelau a phrofiad sydd angen cymwysterau gyda ni yma.鈥

Oedd Jonathan wedi rhagweld y twf yma?

鈥淥鈥檔 i wedi cael cytundeb i gyflawni cwpwl o bethau newydd, ac o鈥檔 i鈥檔 gwybod bod 鈥榥a werth yn dod trwy rheiny.

"Ond mae鈥檙 twf wedi bod tipyn yn fwy na beth oedd yn y planiau gwreiddiol, a ni鈥檔 gobeithio y bydd y twf yna鈥檔 parhau dros y blynyddoedd nesa鈥.鈥

Ffynhonnell y llun, Pero

Arddel y Gymraeg

Yn ganolbwynt i'r holl beth maen nhw'n ei wneud yn y cwmni mae'r iaith Gymraeg - o'r enw i'r rhestr cynhwysion ar y bagiau.

鈥淣i wedi cael sawl dadl yngl欧n 芒 ble ddaeth yr enw. Ar un pryd meddwl 鈥榶dy e鈥檔 rhywbeth sydd 鈥榙i dod n么l o Batagonia?鈥 achos perro yw'r gair Sbaeneg am gi.

"Ond mae鈥檔 anodd ffeindio beth oedd gwraidd yr enw pero am gi (yn Gymraeg) 鈥 dy鈥檔 ni wedi bod yn hapus gan fod gymaint yng Nghymru o鈥檙 enw Pero, a dyna ble mae wedi dod."

Ac mae'r Gymraeg i'w gweld yn amlwg ar bob bag sy'n cael ei gynhyrchu.

鈥淢ae Gymraeg yn bwysig i ni, ac hyd yn oed ar y bagiau sy'n mynd dros y m么r i Asia, mae鈥檙 cynhwysion ar bob bag yn y Gymraeg, ar y brig o鈥檙 ieithoedd eraill y byd sydd ar y rhestr ac i'w gweld ar y bagiau."