'Dim cynlluniau i gau Amgueddfa Cymru Caerdydd'
- Cyhoeddwyd
Does dim cynlluniau i gau Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, yn 么l yr Ysgrifennydd Diwylliant.
Roedd yna rybudd y gallai'r amgueddfa orfod cau gan fod ei gyflwr yn dirywio.
Wrth siarad yn y Senedd dywedodd Lesely Griffiths ei fod yn "adeilad eiconig" a bod y llywodraeth yn edrych ar "gyllid penodol dros y blynyddoedd nesaf".
Mae prif weithredwr Amgueddfa Cymru wedi rhybuddio am broblem "enfawr" gyda chyflwr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Dywedodd Jane Richardson y byddai'n rhaid i'r adeilad - sy'n gartref i "wrthrychau hynod o arbennig" - gau heb ragor o arian.
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
- Cyhoeddwyd14 Ebrill
Mae Amgueddfa Cymru wedi gweld gostyngiad o 拢3m yn ei grant gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n dweud bod angen mynd i'r afael 芒 diffyg o 拢4.5m erbyn diwedd Mawrth yn sgil bwlch o flwyddyn i flwyddyn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud "penderfyniadau hynod anodd" oherwydd bod eu cyllideb nhw yn llai.
'Adeilad eiconig'
Ond roedd yna awgrym clir gan Lesley Griffiths y byddai rhagor o arian ar gael i achub yr amgueddfa.
Wrth ymateb i gwestiwn yn y Senedd gan Heledd Fychan o Blaid Cymru, dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant bod gwaith eisoes wedi dechrau i edrych ar "gyllido penodol dros y blynyddoedd nesaf".
Dywedodd wrth ASau ei bod wedi gofyn i'r amgueddfa lunio cynllun busnes erbyn canol mis Mai.
Pwysleisiodd Ms Griffiths nad oedd ei chyllideb yn fawr iawn, ond dywedodd "nad mater i mi yn unig yw hwn, mae'n fater ar gyfer y llywodraeth gyfan".
"Mae'n adeilad eiconig," ychwanegodd. "Dyw'r casgliadau hyn ddim yn eiddo i ni, rydym yn gofalu amdanyn nhw.
"Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n eu diogelu nhw."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant hefyd fod Llywodraeth Cymru yn "ymrwymedig" i beidio 芒 chodi t芒l i fynd i mewn i amgueddfeydd".
Dywedodd fod rheolwyr yr amgueddfa yn edrych ar ffyrdd o "godi refeniw" ond ychwanegodd nad yw "codi t芒l am fynd i mewn yn un ohonyn nhw".
Mae llefarydd diwylliant Plaid Cymru, Heledd Fychan wedi croesawu hynny, a dywedodd ei bod yn gobeithio nawr bod yna "barodrwydd i ddod o hyd i atebion".
Ychwanegodd: "Nid oes yr un ohonom eisiau gweld Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, pencadlys ein hamgueddfeydd cenedlaethol eiconig yn gorfod cau ei drysau gan nad yw'n ddiogel i ymwelwyr, staff a'n casgliadau cenedlaethol."