´óÏó´«Ã½

Dadorchuddio Cadair a Choron Prifwyl Rhondda Cynon Taf

Y Goron a'r GadairFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Gadair a'r Goron eu cyflwyno i'r pwyllgor gwaith nos Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae cadair a choron Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf wedi cael eu cyflwyno'n ffurfiol i bwyllgor gwaith y Brifwyl.

Eleni mae'r ddau grefftwaith yn plethu hanes lleol a threftadaeth y Cymoedd i'r gwobrau cenedlaethol.

Cafodd y goron a'r gadair eu dadorchuddio am y tro cyntaf mewn seremoni yn y Guildhall, Llantrisant nos Iau.

Y Goron

Yn addurno'r goron, mae nodau'r anthem genedlaethol a phont hynod Pontypridd yn dod ynghyd yng ngwaith Elan Rhys Rowlands.

Fel rhan o'r cynllunio bu Elan yn ymweld ag Ysgol Gymraeg Garth Olwg ym Mhontypridd er mwyn cydweithio gyda 15 o ddisgyblion ar syniadau i gynllun y goron.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Elan Rhys Rowlands ddyluniodd y goron eleni

Ym Mhontypridd y cyfansoddodd y tad a'r mab James ac Evan James Hen Wlad fy Nhadau.

Pont dros y Taf ger y tÅ· pridd sy'n rhoi'r enw gwreiddiol ar Bontypridd, ac mae pont unigryw William Edwards yn rhan ganolog o hanes diwydiannol y dref a'r cwm.

Ysgol Garth Olwg sy'n noddi'r goron a'r wobr o £750 eleni.

Yn ôl y Prifathro Trystan Edwards, mae gwneud hynny'n adlewyrchu pwrpas yr ysgol o feithrin Cymry balch.

Y Gadair

Fel y Cymoedd diwydiannol eu hunain, mae dylanwad glo a haearn i'w gweld yn glir ym mhensaernïaeth a chynllun y gadair, ac mae cyfraniad afonydd Rhondda, Cynon a'r Taf yn amlwg hefyd.

Berian Daniel yw'r dylunydd, fu hefyd yn cydweithio gyda disgyblion ysgol Gymraeg lleol i gael ysbrydoliaeth.

"Disgyblion Ysgol Llanhari ym Mhont-y-clun ddaeth â'r syniad o greu afon o lo a'r term ‘Aur y Rhondda’. Glo ddaeth o ddaear y cymoedd gan greu gwaith a chyfoeth.

Ac er bod y diwydiant wedi dod i ben, mae’i ddylanwad yn parhau'n gryf ac roedd yr ysgol am ei weld yn cael ei adlewyrchu yn y gadair hon,"

Daw'r derw'r gadair o goeden hynafol fu'n tyfu ger cartre’ Iolo Morgannwg yn y Bontfaen nid nepell i ffwrdd ym Mro Morgannwg.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Bu Berian Daniel yn gweithio â disgyblion lleol i gael ysbrydoliaeth am ddyluniad y Gadair

Ysgol Llanhari sy'n noddi'r gadair a'r wobr ariannol, wrth i'r sefydliad ddathlu 50 mlynedd o addysg Gymraeg yn y sir.

Wrth weld y ddwy brif wobr gyda'i gilydd am y tro cyntaf dwedodd cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Helen Prosser eu bod hi wrth ei bodd.

“Maen nhw’n symbol cenedlaethol o’n hiaith a’n diwylliant, ond mae’r lleol hefyd i’w weld yn gwbl glir yn y ddwy, ac mae hyn wedi bod mor bwysig i ni yma yn Rhondda Cynon Taf drwy gydol ein taith.

"Rydyn ni’n ymwybodol iawn ein bod ni’n rhoi cartref i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni - ond ein prifwyl ni yw hi, gyda stamp clir y Cymoedd i’w weld yn rhaglen pob un o’r pafiliynau ac, rwy’n falch o ddweud, yn ein Cadair a’n Coron."

Beth yw'r testunau eleni?

Mae'r goron yn cael ei rhoi am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd ar y pwnc 'Atgof'.

'Cadwyn' yw'r testun a osodwyd ar gyfer y gadair, a hynny am gerdd mewn cynghanedd gyflawn.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn cael ei chynnal ar Barc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst.