´óÏó´«Ã½

Heddlu yn ymchwilio i farwolaeth merch 12 oed

Honey Fox FrenchFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Honey Fox French ar 19 Hydref

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad i farwolaeth merch 12 oed o Sir Benfro.

Bu farw Honey Fox French, o Aberdaugleddau, Sir Benfro ar ôl i’r gwasanaethau brys gael eu galw i dŷ am 10:25 ar 19 Hydref.

Clywodd agoriad cwest i'w marwolaeth yn Hwlffordd ddydd Mercher fod Honey wedi'i chyhoeddi'n farw am 11:50 er gwaethaf ymdrechion gorau'r parafeddygon.

Cafodd y cwest ei agor a'i ohirio gan y crwner cynorthwyol Gareth Lewis er mwyn caniatáu ymchwiliad pellach.

Dywedodd swyddog y crwner, Carrie Sheridan, wrth y cwest bod y gwasanaethau brys wedi derbyn galwad ynglŷn â lles plentyn.

Dywedodd wrth y cwest bod archwiliad post-mortem wedi'i gynnal yn Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru ac nad oedd achos y farwolaeth yn hysbys.

Fe rannodd Mr Lewis ei gydymdeimlad â theulu Honey.

Mae miloedd o bunnau eisoes wedi ei gasglu ar dudalen codi arian ar-lein er mwyn cefnogi'r teulu.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Penrhyn Dewi

Ar adeg ei marwolaeth, dywedodd datganiad ar y cyd gan Gyngor Sir Penfro ac Ysgol Penrhyn Dewi bod Honey yn "annwyl gan bawb oedd yn ei hadnabod".

“Roedd hi’n berfformwraig ac yn awdur brwd a roddodd yn hael o’i hiwmor, ei hamser a’i thalentau i gefnogi ein teulu ysgol a’r gymuned ehangach – a bydd colled fawr ar ei hôl," dywedodd.

“Mae ein cariad, ein meddyliau, a’n gweddïau yn mynd allan at ei theulu ar yr adeg drist hon."

Gosododd Mr Lewis ddyddiad dros dro o 10 Ebrill 2025 ar gyfer y gwrandawiad nesaf.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys mewn datganiad: "Mae swyddogion yn ymchwilio i'r amgylchiadau arweiniodd at y farwolaeth, a bydd adroddiad yn cael ei lunio ar gyfer y crwner."