Sut wnaeth y Cymry yng Ngemau Olympaidd Paris 1924?
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.
Mae’r Gemau Olympaidd yn dechrau yn Paris ar 26 Gorffennaf.
Union ganrif yn ôl, roedd y gemau yn yr un ddinas.
Yr hanesydd chwaraeon, Dr Meilyr Emrys oedd yn siarad ar raglen Aled Hughes ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru am hanes y Cymry oedd ar dîm Prydain yng ngemau 1924.
Roedd gan Prydain un o’r timau mwyaf yn 1924, gyda 267 o athletwyr. Dim ond naw ohonyn nhw oedd yn Gymry.
Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf. Wnaeth nifer ddim mynd i’r Gemau Olympaidd byth eto.
Y naw oedd:
Paul Radmilovic (polo dŵr)
Horace Debenham (rhwyfo)
William Randall (codi pwysau)
Stanley Leigh, Ernest Leigh, Thomas Hopkins (gymnasteg)
David Lewis, Philip Griffiths, Enoch Jenkins (saethu).
Yn anffodus, wnaeth neb ennill medal.
Roedd Paul Radmilovich wedi ennill pedair medal aur mewn Gemau Olympaidd cyn 1924 – yr unig Gymro erioed i ennill pedair medal Olympaidd. Ond collodd tîm polo dŵr Prydain yn y rownd gyntaf yn Paris.
Daeth Horace Debenham a thîm rhwyfo wyth dyn Prydain yn agos, gan ddod yn bedwerydd.
Dyma oedd ail dro Enoch Jenkins yn y Gemau. Roedd rhaid iddo aros 28 o flynyddoedd i gystadlu eto, yn Helsinki yn 1952! Enoch Jenkins oedd hen ewythr y chwaraewyr rygbi, Neil Jenkins.
Roedd yna hefyd athletwyr gyda chysylltiad Cymreig.
Cafodd y chwaraewr tenis, Maxwell Woosnam, ei eni yn Lerpwl, ond roedd ganddo gysylltiadau agos gyda chanolbarth Cymru - roedd ei deulu yn dod o ³Û²õ³Ùâ»å Cenllysgwynne ger Llanfair ym Muallt.
Ond er fod Woosnam wedi ennill medal aur ac arian yng ngemau 1920, wnaeth o ddim ennill yn 1924.
Mae’r ffilm Chariots of Fire yn adrodd stori llwyddiant dau redwr o Brydain yng Ngemau Olympaidd 1924, ac roedd un ohonyn nhw yn hanner Cymro!
Cafodd mam Harold Abraham ei geni ym Merthyr Tudful. Enillodd Abraham y ras 100m – y Prydeiniwr cyntaf i wneud hynny – ac ennill medal arian yn y ras gyfnewid 4x100m.
Eleni mae 31 athletwr (a thri eilydd) o Gymru yn rhan o dîm Prydain – gobeithio y bydd mwy o fedalau yn dod yn ôl adref eleni.
Pob lwc!
Geirfa
canrif/century
hanesydd/historian
athletwyr/athletes
cystadlu/to compete
rhwyfo/rowing
codi pwysau/weightlifting
saethu/shooting
ennill/to win
pedwerydd/fourth
hen ewythr/great uncle
cysylltiad/connection
canolbarth Cymru/mid Wales
²â²õ³Ùâ»å/estate
llwyddiant/success
rhedwr/runner
ras gyfnewid/relay race
eilydd/substitute
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd21 Mai