大象传媒

Cynghrair y Cenhedloedd: Yr Almaen 5-1 Cymru

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid 1 o 5, Lea Schuller, Fe beniodd Lea Schuller y b锚l i gefn y rhwyd wedi 20 munud o chwarae
  • Cyhoeddwyd

Roedd Yr Almaen yn rhy gryf i Gymru yn Sinsheim wrth i d卯m Gemma Grainger ildio pum g么l am yr ail g锚m yn olynol yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Yr Almaen oedd y ffefrynnau clir nos Wener ac roedd y b锚l yn eu meddiant am gyfnodau hir yn ystod yr ugain munud cyntaf.

Y t卯m cartref a lwyddodd i gael y b锚l i gefn y rhwyd yn gyntaf yn dilyn gwaith da gan yr amddiffynnwr Sarai Linder, gyda Lea Schuller yn sgorio.

Roedd yr Almaenwyr yn edrych yn gyfforddus iawn ac oni bai am arbediad campus Olivia Clark byddan nhw wedi dyblu eu mantais.

Ond funudau cyn yr hanner, fe sgoriodd Ceri Holland g么l i Gymru yn erbyn llif y chwarae.

Cafodd Cymru ddechreuad siomedig i'r ail hanner, gyda Schuller yn sgorio ei hail g么l o'r g锚m, a hynny o fewn munud yn unig i'r ailgychwyn.

Gyda 10 munud yn weddill, fe sgoriodd Giulia Gwinn i'r Almaen yn dilyn cic o'r smotyn.

Ychwanegodd Sjoeke Nusken bedwaredd g么l i'r Almaenwyr, cyn i Nicole Anyomi sgorio'r bumed funudau yn unig ar 么l dod ar y cae.

Bydd Cymru yn wynebu Denmarc - a oedd yn fuddugol o 5-1 yng Nghaerdydd fis diwethaf - nos Fawrth.

Disgrifiad,

Uchafbwyntiau g锚m Cymru yn erbyn yr Almaen yng Nghynghrair y Cenhedloedd