Strictly: Amy Dowden i fethu gweddill y gyfres oherwydd anaf
- Cyhoeddwyd
Mae'r ddawnswraig o Gymru, Amy Dowden wedi cyhoeddi na fydd hi'n cymryd rhan yng ngweddill y gyfres bresennol o Strictly Come Dancing.
Bythefnos yn 么l, cafodd ei chludo i'r ysbyty "fel mesur rhagofalus" wedi iddi lewygu gefn llwyfan yn ystod un o'r rhaglenni.
Daeth cadarnhad ddydd Llun na fydd Dowden, 34, o Gaerffili, yn dychwelyd i'r gyfres eleni gan ei bod yn "canolbwyntio ar wella o anaf i'w throed".
Roedd hi wedi dychwelyd i'r rhaglen eleni ar 么l colli'r gyfres ddiwethaf wedi iddi gael diagnosis canser y fron.
Dywedodd llefarydd ar ran Strictly Come Dancing: "Yn anffodus ni fydd Amy Dowden MBE yn gallu cymryd rhan yng ngweddill y gystadleuaeth eleni."
Ychwanegodd y llefarydd mai "iechyd a lles pawb sy'n rhan o'r rhaglen yw'r flaenoriaeth i ni".
Lauren Oakley fydd yn cymryd lle Dowden fel partner JB Gill am weddill y gyfres.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Dowden: "Mae fy nghalon yn torri ar hyn o bryd. Roeddwn o'r diwedd yn teimlo fel fi hun yn y misoedd diwethaf.
"Ni canser oedd y peth cyntaf ar fy meddwl wrth ddeffro mwyach, ond coreograffi, dewis cerddoriath, pa ddawns ym mha drefn... ro'n i'n teimlo'n rhydd eto."
Gan ddymuno'r gorau i JB Gill a Lauren Oakley yn y gystadleuaeth, ychwanegodd ei bod "yn gwybod... y bydda i'n well yn fuan ac yn 么l yn dawnsio".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023
- Cyhoeddwyd27 Hydref