大象传媒

Plaid Werdd: 'Dod 芒'n gwasanaethau cyhoeddus yn 么l o'r dibyn'

Anthony Slaughter
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Anthony Slaughter yw arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Fe allai biliynau o bunnau gael eu buddsoddi ym meysydd iechyd, addysg, tai a thrafnidiaeth yng Nghymru drwy godi trethi ar "y cyfoethocaf mewn cymdeithas鈥 a thrwy fwy o fenthyca gan y llywodraeth, yn 么l Plaid Werdd Cymru.

Cyn lansio ei maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol ddydd Mercher, dywedodd arweinydd y blaid Anthony Slaughter fod angen yr arian "i ddod 芒'n gwasanaethau cyhoeddus yn 么l o'r dibyn".

"Ar 么l blynyddoedd o anghydraddoldeb cynyddol, mae'n rhaid i'r arian hwnnw ddod gan yr unigolion a'r cwmn茂au cyfoethocaf," meddai.

Dywedodd y blaid y bydd ei maniffesto yn cynnig "gweledigaeth flaengar, ysbrydoledig ar gyfer Cymru sy'n ysu am newid".

Mae鈥檙 Gwyrddion yn cynnig treth cyfoeth newydd ar asedau dros 拢10m o 1% y flwyddyn, gan godi i 2% ar asedau gwerth mwy na 拢1bn.

Maen nhw鈥檔 dweud y bydden nhw hefyd yn codi credyd cynhwysol 拢40 yr wythnos ac yn cynyddu鈥檙 isafswm cyflog cenedlaethol i 拢15 yr awr i bawb dros 16 oed.

Mae鈥檙 blaid yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, ac eisiau i鈥檙 Senedd gael yr un pwerau 芒 Senedd yr Alban fel y cam cyntaf ar daith tuag at adael y Deyrnas Unedig.

Mae gan Holyrood fwy o reolaeth dros fudd-daliadau lles, treth a phlismona.

'Creu swyddi gwyrdd newydd'

Dywedodd Mr Slaughter: 鈥淣i fydd geiriau cynnes yn achub ein gwasanaeth iechyd.

"Mae Llafur yn camarwain y cyhoedd drwy honni y bydd ei chynlluniau yn gwneud gwahaniaeth.

"Byddai'r cynlluniau gwario truenus hynny yn gyfystyr 芒 thoriadau gwaeth na llymder o dan glymblaid y Tor茂aid a'r Democratiaid Rhyddfrydol."

Fe fyddai'r cynlluniau i godi credyd cynhwysol a'r isafswm cyflog yn "brwydro'r lefelau gwarthus o dlodi plant sydd gennym ni yng Nghymru", meddai.

Mae'r maniffesto hefyd yn galw am flaenoriaethu gweithredu ar newid hinsawdd a bioamrywiaeth, gan "greu swyddi gwyrdd newydd a chefnogi pobl yn economaidd drwy'r newidiadau sydd eu hangen".

Mae ymgeiswyr y Blaid Werdd yn sefyll ym mhob un o 32 sedd Cymru yn yr etholiad cyffredinol a gynhelir ar 4 Gorffennaf.