Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llofruddiaeth Conall Evans: Dau yn llys y goron
Mae dau ddyn wedi ymddangos yn llys y goron ar gyhuddiad o lofruddio dyn a gafodd ei ganfod yn farw tu allan i ysbyty yn Rhondda Cynon Taf.
Bu farw Conall Evans, 30 oed o ardal Pentre, yn dilyn ymosodiad yn Nhonypandy ar 1 Ionawr.
Mae Dewi Morgan, 24 oed o Drealaw, ac Ashley Davies, 30 oed o Bentre, wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth a bod ag eitem finiog yn eu meddiant yn gyhoeddus heb reswm teilwng.
Ymddangosodd y ddau o flaen Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Gwener, oedd yn eistedd yng Nghaerdydd.
Ni chafodd pledion eu cyflwyno, ac nid oedd cais am fechn茂aeth.
Cafodd yr achos ei ohirio tan 8 Chwefror.