大象传媒

Cwmn茂au d诺r i gydymffurfio 芒 safonau iaith o Awst 2025

Courtney Brady wrth ei desg yng nghanolfan D诺r Cymru yng Nghaerdydd.
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae D诺r Cymru eisoes yn cynnig gwasanaeth Cymraeg i gwsmeriaid, gan gyflogi gweithwyr dwyieithog fel Courtney Brady i ddelio ag ymholiadau

  • Cyhoeddwyd

O Fis Awst 2025 bydd cwmn茂au d诺r yn gorfod cynnig gwasanaethau Cymraeg ym mhob agwedd o鈥檜 busnes.

Dyma鈥檙 tro cyntaf i鈥檙 comisiynydd iaith osod safonau ar gyrff nad ydynt yn cael eu hystyried yn rhai cyhoeddus.

Mae D诺r Cymru a Hafren Dyfrdwy eisoes yn gweithredu cynllun iaith, ond yn paratoi i gydymffurfio 芒鈥檙 safonau ffurfiol a fydd yn dod i rym haf nesaf.

Dyma 鈥済am cadarnhaol a hynod o adeiladol鈥 meddai cyfarwyddwr rheoleiddio a dirprwy comisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn.

鈥淢ae鈥檙 cwmn茂au d诺r yn darparu gwasanaethau pwysig i ddefnyddwyr y Gymraeg, boed hynny yn ffurflenni, yn ohebiaeth yn ymwneud 芒 biliau, gwefannau, a gwasanaethau sydd yn dod yn gynyddol bwysig megis apiau a chyfleusterau sgwrsio ar-lein.

鈥淲rth osod y safonau yma, mi ydan ni yn cynyddu鈥檙 cyfleodd sydd ar gael i ddefnyddio鈥檙 Gymraeg wrth ymwneud 芒 chwmn茂au d诺r,鈥 ychwanegodd Mr Llywelyn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y safonau hefyd yn ymwneud 芒 defnydd o'r iaith Gymraeg mewn ardaloedd diwydiannol y busnesau d诺r, fel yng nghweithfeydd D诺r Cymru yn Ninas Powys

Pwrpas ffurfiol y safonau iaith yw sicrhau nad yw鈥檙 Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na鈥檙 Saesneg yng Nghymru.

Mae鈥檙 ddau gwmni d诺r wedi bod yn gweithredu cynllun iaith o dan y ddeddf iaith, sy鈥檔 golygu bod nifer o agweddau o鈥檙 busnesau eisoes yn cydymffurfio 芒鈥檙 safonau.

Dywedodd Osian Llywelyn bod y cwmn茂au 鈥渕ewn lle da鈥 yn barod.

鈥淢ae 'na ddarpariaeth Cymraeg yno. Mae鈥檙 safonau yn gosod heriau newydd fydd yn golygu bydd elfen o ymbaratoi yn y cyfnod sydd i ddod,鈥 meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

D诺r Cymru a Hafren Dyfrdwy yw'r cyrff cyntaf, nad ydynt yn cael eu hystyried yn rhai cyhoeddus, i orfod cydymffurfio'r 芒'r safonau iaith

O鈥檙 canolfannau cyswllt yn y de a鈥檙 gogledd mae D诺r Cymru yn ateb ymholiadau Cymraeg gan gwsmeriaid. Daw鈥檙 ymholiadau drwy鈥檙 ff么n, y cyfryngau cymdeithasol ac ar ffurf negeseuon digidol drwy鈥檙 wefan ac ar e-bost.

鈥淔i鈥檔 meddwl bod e mor bwysig, ac mae鈥檙 cwsmeriaid yn meddwl hynny hefyd,鈥 meddai Courtney Brady, sy鈥檔 gweithio yn y ganolfan yng Nghaerdydd.

鈥淥 ran y galwadau maen nhw wastad yn dweud mae鈥檔 gr锚t i allu cael y cysylltiad Cymraeg.鈥

Mae鈥檙 gweithwyr dwyieithog yn derbyn tua 20 i 40 o alwadau ff么n y diwrnod.

鈥淓rs i fi ddechrau, mae鈥檙 nifer o alwadau ni鈥檔 derbyn yn y Gymraeg wedi codi,鈥 meddai Courtney.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Katherine Kobeissi 鈥渕ae dal yn syrpreis i bobl bod gyda ni linell Gymraeg鈥

Mae ei chydweithiwr, Katherine Kobeissi, yn dweud bod argaeledd y gwasanaeth dal yn synnu rhai.

鈥淢ae dal yn sypreis i bobl bod gyda ni linell Gymraeg,鈥 meddai.

Dwedodd mai 鈥渦n neu ddau o alwadau y flwyddyn鈥 oedd yn Gymraeg pan ddechreuodd yn ei swydd, ond bellach mae鈥檔 siarad 芒 dwsinau o gwsmeriaid bob dydd.

鈥淥herwydd mai t卯m bach ydyn ni, mae鈥檔 bersonol hefyd. Mae cwsmeriaid yn hoffi dod 'n么l atom ni, ac yn falch ein bod ni鈥檔 siarad yr un iaith,鈥 meddai Katherine.

Mae鈥檙 heriau mwyaf i鈥檙 cwmn茂au d诺r yn ymwneud 芒'r gwaith y tu hwnt i鈥檙 rhyngweithio gyda chwsmeriaid arferol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd rhai safonau iaith "yn fwy anodd i gydymffurfio 芒 nhw nag eraill", meddai Heulyn Gwyn Davies o D诺r Cymru

Fe fydd angen gwella鈥檙 gwasanaeth Cymraeg wrth ddelio ag elfennau diwydiannol y busnes d诺r - fel y trafodaethau gyda chwmn茂au adeiladu a鈥檙 rheoleiddwyr.

鈥淔el un o brif gwmn茂au Cymru rydyn ni鈥檔 ymfalch茂o yn y ffaith ein bod ni yn darparu gwasanaethau dwyieithog,鈥 meddai Heulyn Gwyn Davies o D诺r Cymru.

鈥淢i fydd rhai safonau efallai yn fwy anodd i gydymffurfio 芒 nhw nag eraill - yn enwedig meysydd mwy technegol, mwy arbenigol, efallai.

鈥淥nd 'dan ni鈥檔 ffyddiog, maes o law, y gallwn ni gydymffurfio,鈥 meddai Mr Davies.

Fe fydd D诺r Cymru yn cynnal gwaith i asesu鈥檙 hyn fydd angen gwella cyn gorfod cydymffurfio 芒'r safonau haf nesaf.

Tra ei bod hi'n ofynnol i gwmn茂au d诺r ufuddhau i'r safonau flwyddyn nesaf, mae gwaith ymgynghori wedi cychwyn ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i osod y safonau ar y sector asiantaethau tai a gweithredwyr y rheilffyrdd.

Ffynhonnell y llun, Lafan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Zoe Pritchard fod 鈥渂usnesau yn bendant yn gweld y budd, bellach" o ddefnyddio'r Gymraeg

Wrth i鈥檙 safonau ddod yn berthnasol y tu hwnt i鈥檙 sector gyhoeddus, mae arbenigwr ar y Gymraeg ym myd busnes yn dweud bod mwy a mwy o gwmn茂au preifat yn hyderus am ddefnyddio鈥檙 iaith.

鈥淒wi鈥檔 teimlo fod y byd busnes wedi newid dros y pedair neu bum mlynedd diwethaf,鈥 meddai Zoe Pritchard, ymgynghorydd arweiniol cwmni Lafan.

Mae Lafan yn cydweithio 芒 chwmn茂au Cymreig ac wedi sylweddoli ar newid mewn agweddau tuag at yr iaith.

鈥淢ae 'na lot yn fwy o fusnesau yn agored iddi hi,鈥 meddai.

鈥淢ae busnesau bendant yn gweld y budd, bellach.

鈥淢aen nhw鈥檔 cydnabod bod llawer iawn o鈥檜 cwsmeriaid nhw yn siarad Cymraeg, mae鈥檔 gwneud y perthynas yna [gyda鈥檙 iaith] yn bwysig,鈥 meddai Ms Pritchard.

Mae cwmn茂au bach sy鈥檔 ddi-Gymraeg wedi mynd at Lafan am gymorth i wella鈥檙 arlwy Cymraeg, ac mae Ms Pritchard yn dweud bod angen i fusnesau mwya鈥檙 wlad arwain y ffordd.

鈥淥s mae cwmn茂au mawr yn cael eu gweld yn cydnabod y budd鈥 o ddefnyddio鈥檙 Gymraeg bydd busnesau eraill yn sylweddoli 鈥渕ae 'na bendant werth iddi,鈥 meddai.

Pynciau cysylltiedig