大象传媒

Y cawr hwylfyrddio Farrel O'Shea wedi marw yn Ffrainc

Farrel O'SheaFfynhonnell y llun, Pete Davis/Creative Commons
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Farrel O'Shea wedi ei ddisgrifio fel "un o bobl dda bywyd"

  • Cyhoeddwyd

Mae un o gewri'r byd campau awyr agored a sefydlodd fusnes adnabyddus ym Mhen Ll欧n wedi marw yn annisgwyl yn 60 oed.

Bu farw Farrel O'Shea "ar draeth yn Ffrainc, yn gwneud yr hyn roedd yn ei garu" dros y penwythnos, yn 么l datganiad ar ran ei deulu a'i gwmni.

Er iddo ymwneud 芒 sawl camp d诺r, fe wnaeth ei gyfraniad mwyaf fel hwylfyrddiwr ac roedd yn rhan o gr诺p el卯t oedd yn gwthio'r ffiniau ac yn creu symudiadau heriol newydd fel y 'killer loop'.

Ond fe arloesodd hefyd trwy helpu i greu byrddau hwylio ysgafnach, gan agor siop yn Abersoch cyn sefydlu brand llwyddiannus O'Shea a symud i Bwllheli wrth i'r busnes dyfu.

Ffynhonnell y llun, Pete Davis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe arloesodd Farrel O'Shea ar ac oddi ar y d诺r, fel athletwr a dyn busnes

Gan gadarnhau ei farwolaeth fore Sul 2 Mehefin "gyda chalonnau trwm a thristwch dwfn", dywedodd datganiad ei anwyliaid eu bod yn "ddiolchgar dros ben am yr holl negeseuon o gariad a chefnogaeth".

Ychwanegodd: "Roedd Farrel yn un o bobl dda bywyd, yn ffigwr chwedlonol, roedd gymaint yn ei garu'n ddwfn ac fe fydd yn ein calonnau am byth."

'Mentor, ysbrydoliaeth, ffrind'

Yn hanu o Sir Amwythig, fe ddatblygodd ei ddiddordeb mewn hwylfyrddio ar 么l rhoi cynnig arni mewn llyn lleol yn ei arddegau.

Fe ddechreuodd ymweld 芒 gogledd Cymru er mwyn hwylfyrddio yn Rhosneigr, Abersoch a'r Bala.

Trodd yn broffesiynol a chyhoeddi un o'r llyfrau mwyaf dylanwadol ar y gamp erbyn iddo symud i Abersoch yn y 1990au ac agor siop yna.

Sefydlodd gwmni O'Shea yn 1994 gan werthu offer a dillad ar gyfer pob math o gampau d诺r, gan gynnwys tonfyrddio, eirafyrddio a phadlfyrddio.

Roedd y cwmni yn rhan amlwg o'r 诺yl glan y m么r Wakestock a gafodd ei chynnal ar dri safle ym Mhen Ll欧n - harbwr marina Pwllheli, prif draeth Abersoch a safle ym Mhenrhos - rhwng 2000 a 2014.

Fe gafodd yrfa lwyddiannus hefyd fel hwyliwr cyflym, ac mae'n dal record cyflymder Prydeinig o 51.2 milltir m么r.

Ffynhonnell y llun, Pete Davis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Farrel O'Shea wedi ei ddisgrifio fel dyn 芒 "ffraethineb sych, clyfar a byddai byth methu 芒 gwneud i chi wenu"

Roedd yr hwylfyrddiwr Zara Davis, sydd wedi torri sawl record byd ei hun, gyda Mr O'Shea mewn digwyddiad yn La Palme, yn ne Ffrainc, pan gafodd ei daro'n wael wrth gerdded ar y traeth ddydd Sul.

Roedd newydd dorri record arall yn y gamp wingfoil.

Dywedodd hithau, fel ei deulu, ei fod "wedi marw yn gwneud yr hyn roedd yn ei garu".

"Farrel oedd fy mentor, fy ysbrydoliaeth a fy ffrind," dywedodd.

"Roedd yn hael gyda phawb o ran ei amser a'i wybodaeth ddigymar am hwylfyrddio cyflym, gwir ffigwr chwedlonol o fewn y gamp.

"Roedd ganddo ffraethineb sych, clyfar a byddai byth methu 芒 gwneud i chi wenu.

"Roedd yn caru campau d诺r... bydd yn cael ei golli gan gymaint o berthnasau a ffrindiau ar draws y byd."

Pynciau cysylltiedig