Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymgynghori ar godi t芒l am barcio ar bromen芒d Aberystwyth
Mae Cabinet Cyngor Ceredigion wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar gynigion i godi t芒l am barcio ar y promen芒d yn Aberystwyth.
Nod y cynllun yw rheoli'r galw am barcio yn well drwy annog pobl i ddefnyddio meysydd parcio oddi ar y stryd.
Byddai cyflwyno t芒l am barcio ar y stryd yn helpu i ariannu costau鈥檙 cynllun, a byddai unrhyw incwm ychwanegol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
Yn 么l Cyngor Ceredigion, mae digon o lefydd parcio ar gael yn eu maesydd parcio nhw a rhai preifat, felly does dim disgwyl i hyn arwain at broblemau parcio mewn mannau eraill.
Y gobaith yw y bydd y cynllun yn cynyddu trosiant cerbydau ar y stryd, cefnogi busnesau lleol a hybu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae hefyd yn anelu at leihau tagfeydd traffig yng nghanol y dref a hybu teithio llesol.
Bydd deiliaid bathodyn glas yn parhau i fod wedi鈥檜 heithrio o dalu am barcio, ac o unrhyw gyfyngiadau amser.
Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson: 鈥淢ae promen芒d Aberystwyth yn lleoliad gwerthfawr yng nghanol y dref.
"Pwrpas y cynllun yw creu trosiant o draffig i alluogi fwy o geir i fynd a dod heb effeithio鈥檔 negyddol ar economi鈥檙 sir.
"Gwnewch yn si诺r eich bod yn ymateb i'r ymgynghoriad.鈥
Bydd yr ymgynghoriad yn cychwyn yn fuan, gan roi cyfle i bawb rannu eu barn cyn gwneud penderfyniad terfynol.