大象传媒

'Siom' wedi i academi b锚l-droed merched ddod i ben

Merched pel-droed y raglen hyfforddi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r merched wedi dweud eu bod yn siomedig fod y sesiynau yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd

Mae'r penderfyniad i gael gwared ar academi p锚l-droed sy'n ysbrydoli merched ifanc wedi arwain at "rwystredigaeth a siom" ymysg chwaraewyr a rhieni.

Mae t卯m p锚l-droed Casnewydd wedi rhoi gwybod i 79 o b锚l-droedwyr ifanc nad oes modd parhau i gynnal sesiynau hyfforddi wythnosol ar ran Cymdeithas B锚l-droed Cymru (CBDC) oherwydd diffyg cyfleusterau.

Dywedodd un chwaraewr, Lily, ei bod yn "drist" nad oes gan y merched unman i hyfforddi bellach, tra bod ei thad a rhieni eraill yn dweud bod y merched wedi eu rhoi o dan anfantais oherwydd eu rhywedd.

Dywedodd CBDC eu bod yn archwilio opsiynau eraill i gymryd lle'r sesiynau a'u bod wedi ymrwymo i helpu chwaraewyr ifanc ar draws Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Lily fod y sefyllfa yn "hynod o drist"

Roedd Adam Becket a'i ferch Lily yn aros i glywed pryd fyddai'r treialon ar gyfer y tymor nesaf pan wnaeth t卯m p锚l-droed Casnewydd gyhoeddi nad oedd modd iddyn nhw barhau gyda'r sesiynau "oherwydd diffyg adnoddau" ddydd Mawrth.

Dywedodd ei fod "wedi ei siomi, yn ddig ac yn rhwystredig ynghylch pa mor fyr rybudd oedd gohirio'r sesiynau".

Dywedodd "nad oes llwybr amlwg i'r merched ddatblygu" os nad yw'r academi yn ailgychwyn.

Dywed Mr Becket fod Lily yn mynd i'r ysgol gyda bechgyn "a fydd yn parhau 芒'u p锚l-droed, tra ei bod yn gorfod eistedd yno yn methu a gwneud yr un fath, dim ond oherwydd ei rhywedd".

"Mae'n hynod o drist achos ro' ni gyd yn ei fwynhau, ac rydym i gyd yn awyddus i wella," meddai Lily.

'Nid yw CBDC yn meddwl am y merched'

"Yn sicr dwi am barhau i chwarae ond dwi ddim yn si诺r beth dwi am wneud nesa," ychwanegodd.

Fe wnaeth ysgrifennydd cynghrair merched Gwent, Steve McKenzie, gyhuddo CBDC o rywiaeth, gan ddweud na fyddai'r sefyllfa erioed wedi digwydd i'r bechgyn yn yr ardal.

"Fe ddylen nhw fod wedi cael rhywbeth yn ei le," meddai. "Nid yw CBDC yn meddwl am y merched.

"Mae 'na ddiffyg gofal a sylw gan d卯m p锚l-droed Casnewydd a CBDC."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Steve McKenzie fod 'na "ddiffyg gofal a sylw gan d卯m p锚l-droed Casnewydd a CBDC"

"Ar hyn o bryd unig ddewis y merched yw chwarae i glybiau llawr gwlad, meddai.

Dywedodd Mr Mckenzie ei fod bellach yn gweithio ar gynnig lle byddai gwirfoddolwyr yn rhedeg yr academi nes bod ateb parhaol i'r broblem.

Dywedodd Casnewydd eu bod "wedi rhoi gwybod i CBDC fis Mai y byddai'n rhaid iddyn nhw gymryd gofal o'r sesiynau eu hunain eto.

"Nid yw diffyg cyfleusterau yn yr ardal yn broblem i b锚l-droed merched yn unig wrth i ni geisio ffeindio digon o adnoddau ar gyfer rhaglen y bechgyn, sy'n orfodol drwy aelodaeth yr EFL."

Dywedodd llefarydd ar ran CBDC mai eu "blaenoriaeth byr dymor yw trafod gyda'r darpar bartneriaid cyflenwi sydd 芒'r capasiti i wasanaethu'r 79 o chwaraewyr oedd yn y ganolfan hyfforddi merched yn 2023/24".

Byddai unrhyw gynnig newydd yn gorfod cyrraedd safonau CBDC, ac efallai y byddai disgwyl i'r chwaraewyr deithio y tu allan i'w hardal meddai CBDC, gan ychwanegu eu bod yn "gwerthfawrogi amynedd y rheiny sydd wedi eu heffeithio".