大象传媒

Cam-drin rhyw: 'Siarad a chwnsela wedi achub fy mywyd'

Camdrin rhywiol
  • Cyhoeddwyd

Mae g诺r ifanc o鈥檙 gogledd a gafodd ei gam-drin yn rhywiol pan yn blentyn gan ddyn roedd yn ei adnabod yn dweud mai siarad am y profiad a chael cwnsela wnaeth achub ei fywyd.

Ond mae achosion llys - fel dedfrydu'r cyn-bennaeth ysgol Neil Foden ddydd Llun - yn corddi hen deimladau, meddai, a dydy o ddim yn gallu darllen na gwrando ar straeon o鈥檙 fath.

鈥淚 fod yn onest fedra i ddim gwrando ar newyddion os 'di rhywbeth fel hyn codi," meddai'r dyn ifanc, sydd ddim am gael ei enwi.

"Dwi鈥檔 gorfod rhoi鈥檙 teledu ar mute neu newid sianel 鈥 achos mae鈥檔 dod 芒 chymaint o bethau n么l.

"Dwi鈥檔 cofio聽- yn ystod y cyfnod pan doeddwn i ddim wedi d'eud wrth neb - bod cymaint o newyddion am celebrities wedi gwneud yr un fath o bethau a mi oedd yn dod 芒 flashback ar 么l flashback yn 么l i mi.鈥

'Teimlo'n ddi-werth'

Cafodd ei gam-drin yn rhywiol pan yn blentyn naw oed, ond wnaeth o ddim dweud wrth unrhyw un am 12 mlynedd.

Dywedodd wrth raglen Post Prynhawn: 鈥淵n fy achos i, ar 么l yr ymosodiad mi wnaeth yr ymosodwr dd'eud wrtha i am beidio d'eud wrth neb - a hyd yn oed taswn i鈥檔 d'eud wrth rywun聽fasa neb聽yn fy nghoelio i.

"Mi oedd yr ofn roedd o wedi ei greu arna i yn rhywbeth fedra i ddim ei ddisgrifio mewn geiriau.

"Mi oedd o wedi g'neud i mi gwestiynu fy hun a mi oedd wedi ei dd'eud o mewn ffyrdd gwahanol ac wedi ailadrodd y peth cymaint o weithiau, mi oeddwn i wedi dechrau meddwl, 'doedd 'na ddim pwynt d'eud', achos fasa pobl ddim yn fy nghredu i.

"Mi wnaeth o gymryd tua 12 mlynedd i mi dd'eud 'hold on am funud' a sylweddoli mai celwydd noeth oedd hynny."

Roedd y 12 mlynedd yn rhai anodd iddo, wrth fyw efo鈥檙 hyn oedd wedi digwydd.

鈥淒wi鈥檔 cofio ar 么l iddo fo ddigwydd mi oeddwn i鈥檔 teimlo yn eithriadol o fudr ac yn teimlo鈥檔 ddi-werth, a methu cael fy hun yn lan.

"Ond hefyd mi wnes i fynd i ryw fath o coping mechanism 鈥 a ma' hynny鈥檔 wahanol i bawb ar 么l siarad hefo cwnselwyr gwahanol 鈥 a mi wnes i bwsho cymaint o bobl i ffwrdd, cymaint o ffrindiau, achos mi oeddwn i鈥檔 'nabod y person wnaeth ymosod arna fi.

"Yn ddrwg o beth ella 鈥 wnes i ddim paentio pawb hefo鈥檙 un brwsh - ond o'n i鈥檔 meddwl, oes oedd rhywun oeddwn i鈥檔 ei 'nabod yn medru gwneud hynny i mi, mi fasa rhywun arall yn medru gwneud yr un fath.鈥

'Y p诺er a鈥檙 grym gen i'

Pledio鈥檔 ddieuog wnaeth yr ymosodwr yn achos y dyn ifanc,聽cyn cael ei ganfod yn euog.

鈥淢ae pobl yn disgwyl i chi dd'eud bod o鈥檔 anferth o ryddhad, a mewn lot o ffyrdd mae o.

"Ond be' sydd yn anodd delio hefo fo ydy鈥檙 emosiwn.

"Wrth edrych n么l mae rhywun mae yn sylweddoli - mae 'na bobl wedi fy nghredu fi, y CPS (gwasanaeth erlyn y goron) wedi fy nghredu fi ac wedyn y cam nesa 鈥 os 'di鈥檙 rheithgor yn dy gredu di.

"Felly pan ges i鈥檙 alwad dwi鈥檔 cofio doeddwn i rili methu siarad.

"Wnes i dd'eud diolch wrth y blismones 鈥 a mi oeddwn i mewn sioc achos mi oedd be' oedd o wedi ei dd'eud wrtha i yr holl flynyddoedd n么l na fasa neb yn fy nghredu yn gwbl anghywir.

"A bod y p诺er a鈥檙 grym yna gynno fi a dim gynno fo -聽a ma' hynna yn rhywbeth mawr a rhywbeth pwysig i bobl sylweddoli.

"Os wyt ti wedi cael dy gam-drin mae鈥檙 p诺er a鈥檙 grym gynno chi a ddim yr ymosodwr."

Cafodd nifer o sesiynau cwnsela er mwyn trafod beth oedd wedi digwydd 鈥 a dyna, meddai, wnaeth achub ei fywyd.

鈥淒wi wedi gorfod byw hefo fo 鈥 'di o ddim wedi bod yn ddewis, ddim yn rhywbeth y baswn i isio byw hefo fo.

"Mi ges i dri cyfnod o gwnsela, ac er ei bod hi鈥檔 swnio鈥檔 hawdd i dd'eud 鈥 achos dwi鈥檔 gw'bod pa mor anodd ydy siarad 鈥 siarad sydd wedi achub fy mywyd i heb os nac oni bai.鈥

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 大象传媒.

Mae鈥檙 cyfweliad ar gael yn llawn ar wefan Post Prynhawn ar 大象传媒 Sounds.

Pynciau cysylltiedig