大象传媒

Dedfrydu cyn-athro chwaraeon am ymosod ar ddisgybl ar noson allan

Ll欧r DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Ll欧r Davies dridiau wedi'r ymosodiad, mewn digwyddiad ar wah芒n

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-athro chwaraeon wedi cael ei ddedfrydu i wneud gwaith di-d芒l yn y gymuned am ymosod ar ddisgybl ysgol ar noson allan yn Sir G芒r.

Cafwyd Llyr James, 31, yn euog yn gynharach fis yma o ymosod ar Ll欧r Davies, 16, yng Nghastellnewydd Emlyn ar 9 Mawrth eleni.

Bu farw'r bachgen dridiau wedi'r digwyddiad, ond fe glywodd yr achos llys nad oedd cysylltiad rhwng yr ymosodiad a'r farwolaeth.

Cafodd ei ddedfrydu ddydd Gwener i 200 awr o waith di-d芒l trwy orchymyn cymunedol, a bydd yn rhaid iddo dalu 拢764 mewn costau.

Roedd James, a oedd yn dysgu yn Ysgol Bro Teifi ar adeg yr ymosodiad, wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad yn ei erbyn.

Mynnodd ei fod yn 鈥渃hwarae dwli鈥 pan afaelodd yn y bachgen ar noson y digwyddiad, a bod ganddo berthynas 鈥渃hwareus鈥 gyda Ll欧r Davies, a oedd yn ddisgybl yn yr ysgol.

Roedd James wedi cyfaddef yfed wyth neu naw peint o seidr ar y diwrnod, cyn yr ymosodiad.

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion nad yw bellach yn cael ei gyflogi gan Ysgol Bro Teifi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llyr James yn cyrraedd y llys fore Gwener ar gyfer ei wrandawiad dedfrydu

Yn yr achos yn ei erbyn roedd James wedi dweud bod Ll欧r Davies yn un 鈥渙 gymeriadau hoffus iawn鈥 Ysgol Bro Teifi a'i fod yn ei adnabod ers iddo ddechrau fel disgybl ym mlwyddyn 7.

Ond yn 么l James Ashton ar ran yr erlyniad, roedd James wedi llusgo'r bachgen i ali ac ymosod arno.

Daeth yr ynadon i'r casgliad fod James yn euog wedi i'r llys weld lluniau CCTV o'r digwyddiad.

Penderfynodd yr ynadon fod y fideo hwnnw yn dangos fod y digwyddiad yn "ymosodiad direswm", a achosodd anaf i law Ll欧r Davies.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd yr erlyniad fod Llyr James fod y wedi llusgo Ll欧r Davies i'r ali yma ac ymosod arno

Dywedon nhw fod y fideo yn "dangos yr hyn ddigwyddodd... yn ei gyfanrwydd", a'i fod yn "allweddol" yn y penderfyniad i ganfod James yn euog.

Cafodd James ei weld ar y fideo yn "rhedeg ar gyflymder tuag at Ll欧r Davies" cyn iddo "ei orfodi i ali".

Fe wnaethon nhw ymddangos rhyw 10 eiliad yn ddiweddarach "gyda'r diffynnydd yn dal i afael yn Ll欧r Davies".

Dywedodd yr ynadon hefyd fod tystiolaeth fod Ll欧r Davies wedi anafu ei law yn y digwyddiad.

"Roedd gweithredoedd y diffynnydd... yn unochrog, a doedd dim gweithred gan Ll欧r Davies," meddai'r ynadon.

"Nid chwarae oedd hyn - roedd yn ymosodiad direswm."

'Cosb bersonol yn barod'

Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu ddydd Gwener dywedodd cyfreithiwr James, Mair Williams, bod ei chleient wedi dioddef "cosb bersonol yn barod".

Dywedodd hefyd ei fod wedi dioddef "cosb feddyliol" tra'n cael ei holi gan yr heddlu, am nad oedd yn gwybod ar y pryd nad oedd cysylltiad rhwng yr ymosodiad a'r hyn ddigwyddodd i Llyr Davies yn y chwarel dridiau yn ddiweddarach.

Dywedodd Ms Williams nad oedd James y "math o berson" fyddai fel arfer yn ymddangos o flaen y llys a'i fod yn mynnu "nad oedd malais" yn ei weithredoedd ar y noson dan sylw.

Ychwanegodd ei gyfreithiwr fod y cyfnod diweddar wedi bod yn "un anodd i'r teulu", gyda gostyngiad sylweddol yn ei gyflog "gyda'i yrfa yn Ysgol Bro Teifi wedi dod i ben".

Fe esboniodd bod James bellach yn symud dodrefn i fusnes teuluol sy'n gwerthu dodrefn.

James bellach yn dad newydd

Ychwanegodd Ms Williams bod marwolaeth Llyr Davies wedi cael "effaith sylweddol" ar James, am fod gan y ddau "berthynas agos".

Dywedodd Ms Williams bod James wedi "dangos edifeirwch" ac nad yw wedi yfed alcohol o gwbl ers y digwyddiad.

Esboniodd hefyd na allai'r achos fod wedi "digwydd ar amser gwaeth" am fod James bellach yn dad newydd.

Bydd Llyr James yn gorfod gwneud 200 o oriau o waith di-d芒l dros 20 diwrnod.

Fe fydd y gwaith yn ymwneud 芒'r gwasanaeth alcohol a chyffuriau lleol, ac yn canolbwyntio ar y defnydd o alcohol.

Bydd y gorchymyn cymunedol yn parhau mewn grym tan 24 Ebrill 2026.

Pynciau cysylltiedig