Cau croesfan rheilffordd oherwydd pryderon diogelwch
- Cyhoeddwyd
Mae croesfan rheilffordd wedi dod yn "risg i ddiogelwch y cyhoedd", mae swyddogion wedi rhybuddio, gyda threnau tawelach ac amlach yn arwain at gynlluniau i gau llwybr cyhoeddus.
Mae lluniau teledu cylch cyfyng hefyd wedi dal pobl ifanc yn "loetran ar y cledrau" rhwng Heol y Fan a L么n Cefn Carnau i'r dwyrain o ganol tref Caerffili.
Gwelwyd hefyd person yn gwisgo clustffonau wrth fynd 芒 ch诺n am dro yn "troi am yn 么l, yn aildroedio'r un llwyr heb unrhyw reswm amlwg".
"Bydd clywed trenau'n dod o bell yn anoddach yn dilyn y newid o drenau diesel i rai trydan," meddai adroddiad gan Gyngor Caerffili.
Dywed yr adroddiad fod Metro De Cymru newydd Trafnidiaeth Cymru yn golygu "trydaneiddio a moderneiddio'r rheilffordd a'r gwasanaeth rhwng Caerdydd a Rhymni".
"Bydd y moderneiddio hwn yn cynyddu amlder trenau, ac yn disodli trenau h欧n, diesel gyda rhai trydan mwy newydd."
Mae gan drenau mwy modern "gyfradd cyflymu ac arafu uwch" sydd 芒'r gallu i deithio'n gyflymach ar draws croesfan reilffordd" nag y mae trenau diesel ar hyn o bryd.
Cyflymder y llinell wrth y groesfan yw 60mya ar gyfer trenau sy'n teithio i gyfeiriad Caerffili, a 65mya i gyfeiriad Caerdydd.
Mae newidiadau i鈥檙 amserlen hefyd yn golygu y bydd mwy o drenau鈥檔 teithio ar y lein. 124 o gerbydau dyddiol sydd yna ar hyn o bryd ond fe fydd yn codi i 216.
Cytunodd cynghorwyr i gau'r llwybr, ac mae disgwyl i gerddwyr gael eu dargyfeirio ar hyd llwybr arall - pont ffordd gyfagos, yn 么l pob tebyg, sy'n croesi'r rheilffordd.
Dywedodd pwyllgor cabinet hawliau tramwy Cyngor Caerffili fod trydaneiddio'r rheilffordd, cyflwyno trenau mwy modern, a gwasanaethau amlach i gyd yn cyfiawnhau cau'r llwybr troed.