大象传媒

Poeri, pwnio, cicio: Trais yn erbyn athrawon yn 'echrydus'

Bethan Lewis ac athro
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd un athro wrth Bethan Lewis bod disgyblion wedi ymosod ar staff "dro ar 么l tro"

  • Cyhoeddwyd

Mae trais yn y dosbarth yn 鈥渂roblem echrydus鈥, yn 么l un undeb addysg, yn sgil data sy鈥檔 awgrymu bod miloedd o achosion o ymddygiad ymosodol wedi鈥檜 cofnodi gan awdurdodau lleol.

Yn 么l undeb NASUWT, mae鈥檙 system gofnodi yn ddiffygiol a gallai nifer yr achosion fod llawer yn uwch.

Mae鈥檙 data gafodd ei gasglu gan y Ceidwadwyr Cymreig yn awgrymu bod o leiaf 5,000 achos o drais gan ddysgwyr yn erbyn staff ysgol wedi eu cofnodi dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Maen nhw wedi galw am linell gymorth genedlaethol i staff a chanllaw newydd ar gasglu data.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod unrhyw drais yn erbyn staff yn 鈥済wbl annerbyniol鈥, tra bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud bod cynghorau鈥檔 gefnogol o鈥檜 holl staff.

'Rhoi gwallt athrawon ar d芒n'

Dywedodd un athro sy鈥檔 gweithio mewn ysgol arbennig yng Nghymru, ac oedd am aros yn ddienw, ei fod wedi delio ag ymddygiad treisgar.

鈥淢ae rhywun wedi ymosod arna i sawl gwaith,鈥 meddai. 鈥淧oeri, pwnio, penio, cicio, cnoi.

鈥淢ae gwallt cyd-weithwyr wedi cael ei roi ar d芒n.

鈥淢ae disgyblion wedi ymosod yn dreisgar ar staff. Nid bwrw unwaith, ond dro ar 么l tro.

鈥淲naiff pob rheolwr ddim cydnabod beth sy鈥檔 digwydd yn ei ysgol.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae鈥檔 dweud bod effaith y digwyddiadau yma hyd yn oed yn waeth "pan nad ydych yn teimlo bod eich rheolwyr yn eich cefnogi".

Tra鈥檔 cydnabod bod y rhesymau dros ymddygiad treisgar yn gymhleth, dywedodd bod oedi cyn cael asesiadau a thriniaeth i bobl ifanc yn rhan o鈥檙 broblem.

Mae鈥檙 athro鈥檔 credu bod dylanwad y cyfryngau cymdeithasol, a blinder ar 么l aros ar ddihun drwy鈥檙 nos ar ffonau symudol, yn ffactor hefyd.

Dywedodd bod cyd-weithwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd wedi cael profiadau tebyg.

Ychwanegodd na ddylai gweithio gyda phlant 芒 heriau ymddygiad mewn ysgol arbennig olygu bod rhaid dod i'r arfer ag ymosodiadau.

'Llawer gwaeth mewn gwirionedd'

Dangosodd ymatebion i geisiadau rhyddid gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig bod o leiaf 5,000 o achosion o drais yn erbyn staff wedi鈥檜 cofnodi rhwng 2018 a 2022.

Mae rhai cynghorau鈥檔 cynnwys data am achosion mewn ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion, tra bod eraill ddim yn rhoi manylion.

Dywedodd nifer o awdurdodau lleol eu bod ond wedi darparu data am ymosodiadau corfforol, ond doedd hi ddim yn eglur a oedd eraill wedi cynnwys ymosodiadau geiriol hefyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae awgrym y gallai rhai o'r problemau ymddygiad ddeillio o flinder wedi i ddisgyblion dreulio gormod o amser ar eu ffonau yn ystod y nos

O鈥檙 cynghorau wnaeth ymateb, dywedodd tri 鈥 Sir y Fflint, Torfaen a Sir Benfro 鈥 nad oedden nhw鈥檔 cadw data am drais yn erbyn staff, ond y dylai neu y gallai ysgolion gael y wybodaeth.

Darparodd rai cynghorau wybodaeth fanwl am y math o drais ar athrawon, a ble y digwyddodd.

Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Laura Anne Jones ei fod yn 鈥渁rgyfwng cudd鈥 a galwodd am gynllun pum pwynt i daclo trais yn y dosbarth.

鈥淚 wneud y sefyllfa鈥檔 waeth yng Nghymru, does gennym ni ddim safonau o ran cofnodi a dim gofyniad i adrodd cam-drin na thrais yn y dosbarth,鈥 meddai鈥檙 Aelod o鈥檙 Senedd.

鈥淢ae鈥檙 darlun go iawn yn si诺r o fod lawer, lawer gwaeth mewn gwirionedd.鈥

Cofnodi digwyddiadau yn 'llanast'

Mae鈥檙 cynllun yn galw am uwch-gynhadledd ar drais, cyllid ychwanegol i gefnogi鈥檙 dioddefwyr a鈥檙 troseddwyr, a llinell gymorth genedlaethol i staff adrodd ar drais ac aflonyddu.

Yn 么l undeb athrawon NASUWT mae lefel y trais yn erbyn athrawon yn gwaethygu, a gallai鈥檙 pandemig fod wedi dylanwadu ar ymddygiad plant.

鈥淵n sicr 'efo'r data 鈥榙an ni'n ei gasglu mae 'na gynnydd wedi bod ers y clo mawr,鈥 meddai Si么n Amlyn, swyddog achos a pholis茂au鈥檙 undeb.

鈥淢ae'n aelodau ni flwyddyn ar 么l blwyddyn yn adrodd wrthan ni bod trais yn yr ysgol yn bodoli a bod o'n gwaethygu, yn arbennig ar 么l y pandemig.

Disgrifiad,

Ddylai trais fyth fod yn rhan o'r swydd, yn 么l Sion Amlyn o undeb NASUWT

鈥淵n sicr dros y tair bedair mlynedd ddwytha mae trais disgyblion neu gamymddwyn difrifol wastad yn un o'r tri peth ucha鈥 mae'n aelodau ni'n adrodd - hynny hefo llwyth gwaith a chyflog.

鈥淥nd yn amlwg o'r ffigyrau hyn mae o'n broblem echrydus sy'n dal i fodoli.鈥

Problem arall, yn 么l yr undeb, yw nad oes digon o gefnogaeth i staff a bod mwy o bobl am adael y proffesiwn oherwydd y problemau.

鈥淒dylia [trais] byth fod yn rhan o'r swydd,鈥 meddai Si么n Amlyn.

鈥淩haid i chi gael chwarae teg ar gyfer y dysgwyr hefyd. Ddylsa nhw ddim bod yn y sefyllfa yma.

鈥淢ae angen mwy o gefnogaeth arbenigol beth bynnag sector 'dach chi'n s么n am. 鈥楧i trais ddim i fod yn norm mewn unrhyw swydd.

"Os oes 'na debygolrwydd bod mwy am ddigwydd, mae angen rhoi camau yn eu lle i sicrhau fod o ddim yn digwydd. Asesiad risg er enghraifft.鈥

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pwysau gwaith hefyd yn ychwanegu at y baich ar athrawon, meddai Sion Amlyn

Yn 么l yr undeb mae鈥檙 ffordd mae鈥檙 achosion o drais yn cael eu cofnodi yn 鈥渓lanast鈥.

鈥淯n peth 鈥榙an ni'n ofyn amdano fel undeb ydy bod yna gysondeb ar sut mae'r digwyddiadau yma'n cael eu cofnodi,鈥 ychwanegodd Sion Amlyn.

鈥淒ylsa bod system cyson ar draws y wlad i gofnodi'r digwyddiadau hyn, fel bod y llywodraeth ac awdurdodau lleol yn gallu dod i fyny hefo cynllun i daclo'r problemau hyn.

鈥淚safswm ydy o mwy na thebyg, oherwydd un ai bod 'na ddiffyg cofnodi neu bod 'na amrywiaeth yn faint sy'n cael eu cofnodi.

"Efallai mai dim ond y rhai difrifol sy'n cael eu cofnodi a bod y rhai llai difrifol ddim.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Jeremy Miles bod angen gwybod y rhesymau y tu 么l i'r broblem

Dywedodd gweinidog addysg Cymru, Jeremy Miles, 聽wrth 大象传媒 Cymru ei bod yn "gwbl annerbyniol fod yna unrhyw fath o drais na fygythiad geiriol yn erbyn athrawon neu staff mewn unrhyw ysgol yng Nghymru".

"Fe ddylai bod ysgol聽yn gallu sicrhau awyrgylch diogel a chroesawgar i ddisgyblion ac athrawon. Felly mae'n amlwg fod yna ddyletswydd ar awdurdodau lleol a'r ysgolion eu hunain i sicrhau fod ysgolion yn llefydd diogel i bawb."

Ychwanegodd: "Fe wnes i gwrdd ag undebau athrawon ac undebau eraill yn y maes addysg tua 10 diwrnod yn 么l fel ein bod yn gallu canolbwyntio ar ddau beth yn benodol.

"Un oedd maint y broblem. Yn amlwg mae hynny'n bwysig i ni ddeall ac felly ymateb. Ac yn ail, mae'n rhaid i ni wybod beth yw'r ffactorau y tu cefn i hyn."

Staff 'dan bwysau mawr'

Yn gynharach eleni, fe ysgrifennodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd at y Gweinidog Addysg yn codi pryderon am dystiolaeth a gawson nhw gan gynghorau ac undebau.

Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud wrth y pwyllgor bod awdurdodau lleol wedi gweld cynnydd yn nifer y plant gafodd eu diarddel dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Roedd cyfran fawr o鈥檙 rheiny yn gysylltiedig ag ymosodiadau geiriol a chorfforol gan blant ar athrawon.

Wrth ymateb i鈥檙 data dywedodd y gymdeithas bod athrawon a staff ysgolion 鈥渄an bwysau mawr鈥.

鈥淩ydym yn deall pwysigrwydd delio 芒鈥檙 materion yma鈥檔 brydlon ac effeithiol i sicrhau awyrgylch gwaith positif, ac fe fyddwn yn gweithio鈥檔 agos gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i鈥檞 datrys,鈥 meddai llefarydd.